Olympiad Tom Haffield yn ysbrydoli llysgenhadon chwaraeon ifanc yng Ngholeg Sir Gâr


Gwnaeth cyn-nofiwr Olympaidd wirfoddoli ei amser i ysbrydoli llysgenhadon chwaraeon ifanc sydd newydd eu penodi yng Ngholeg Sir Gâr, mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid (Youth Sport Trust) a thîm Lles Actif y coleg.
Fel rhan o Raglen Llysgenhadon yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, fe wnaeth Tom Haffield, sydd wedi cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad a’r Gemau Olympaidd, gyflwyno sesiwn mewn arweinyddiaeth mewn chwaraeon.
Soniodd am gynllunio a hyrwyddo gweithgareddau, arwain a gwerthuso gweithgareddau, cyflwyno ymarferol, cynllunio camau gweithredu a rhoddodd enghreifftiau o sut i addasu chwaraeon ar gyfer pobl â heriau megis nam ar y golwg.
Hyfforddodd Tom 10 allan o’r 16 o lysgenhadon myfyrwyr a ddewiswyd nid yn unig o gyrsiau chwaraeon ond y gwasanaethau cyhoeddus, Safon Uwch a rhaglenni sylfaen.
Bydd y llysgenhadon yn gweithio’n agos gyda Kayleigh Brading, Cydlynydd Byddwch Actif y coleg ac yn derbyn arweiniad a chyfleoedd i hyfforddi, cefnogi gweithgareddau’r adran ac ennill cymwysterau hyfforddi a datblygu.
Trwy’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, byddan nhw hefyd yn gymwys i weithio tuag at wobrau efydd, arian, aur a phlatinwm.
Y nod yw i’r llysgenhadon helpu hwyluso cael mwy o fyfyrwyr yn actif ar draws pob un o saith o gampysau Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn y gobaith y bydd Coleg Ceredigion yn dod yn rhan o’i ranbarth ei hun o’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid.
Meddai Kayleigh Brading, cydlynydd Lles Actif Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am amser Tom yn cefnogi’r rhaglen llysgenhadon fel mentor gyda’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid.
“Roedd ei brofiad o gystadlu ar lefel orau’r byd, ymddeol a rhedeg ei fusnes chwaraeon ei hun a’i daith hyfforddi gyfan yn fewnwelediad gwych i fyfyrwyr.
“Rydyn ni wedi ceisio recriwtio llysgenhadon sydd â diddordeb brwd neu sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon y tu hwnt i’w hastudiaethau i roi cyfleoedd iddynt i ddatblygu a derbyn arweiniad.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r llysgenhadon a datblygu gweithgareddau ar draws y coleg cyfan. Wrth i’r Llysgenhadon Chwaraeon Ifanc (YSA ) ddod yn fwy annibynnol, byddaf yn ystyried croesawu mwy i mewn ym mis Medi”
Bydd Kayleigh yn siarad cyn bo hir yn y gynhadledd Lles Actif ranbarthol a gynhelir ar gampws y Graig Coleg Sir Gâr gyda’i llysgenhadon chwaraeon i helpu hyrwyddo’r rhaglen llysgenhadon.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais i fod yn llysgennad yr Ymddiriedolarth Chwaraeon Ieuenctid gysylltu â kayleigh.brading@colegsirgar.ac.uk.