Oliver yn ennill ail safle mewn cystadleuaeth goginio ar draws y DU
Mae Oliver Lacey, sy’n fyfyriwr Coleg Ceredigion wedi cael ei enwi’n ail yn y DU am ei sgiliau coginiol yng nghystadleuaeth Pen-cogydd Risotto Ifanc y Flwyddyn Riso Gallo ar gyfer y DU ac Iwerddon, a gynhaliwyd yn Llundain.
Mae’r gystadleuaeth, a gynhaliwyd yn Stadiwm Tottenham Hotspur, ar agor i fyfyrwyr ar draws y Deyrnas Unedig sydd wedi cystadlu dros y chwe mis diwethaf yn rowndiau rhanbarthol y gystadleuaeth.
Enillodd Oliver rownd Cymru ac felly bu’n cystadlu yn y rownd derfynol lle cafodd cystadleuwyr y dasg o goginio dau ddogn o risoto mewn 45 munud gan ddefnyddio reis Riso Gallo ac olew olewydd Filippo Berio.
Roedd ei risotto buddugol yn cynnwys cynhwysion o gyflenwyr canolbarth Cymru yn bennaf fel Caws Teifi, Cwmni Cloron Cymru (The Welsh Truffle Company), gorthyfail cartref wedi’i dyfu yn y coleg, garlleg gwyllt wedi’i gasglu’n lleol, menyn Cymru, halen Cymru a madarch Cymru.
Mae e’n un o 300 o bobl wnaeth gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac un o 13 a gymerodd ran yn y ffeinal.
Cafodd y gystadleuaeth ei beirniadu gan ddetholiad cynhwysfawr o ben-cogyddion adnabyddus sy’n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd.
O ganlyniad i’w fuddugoliaeth, rhoddwyd llwyfan tri-diwrnod iddo – sef profiad penodol yn y diwydiant, yn Llysgenhadaeth yr Eidal yn Llundain gyda Danilo Cortellini, pen-cogydd Eidalaidd enwog.
Meddai James Ward, darlithydd mewn coginio proffesiynol yng Ngholeg Ceredigion: “Gwnaeth y blasauumami sawrus cryf gyfuno’n dda gyda’r reis arborio a’r olew olewydd yn saig Oliver.
“Mae e’n haeddu cymaint o glod am ei waith caled a’i benderfyniad trwy gydol y digwyddiad cyfan; rydyn ni’n wirioneddol falch ohono yma yn Aberystwyth.”
Mae cwmnïau byd-eang wedi noddi’r digwyddiad yn ogystal ag Urdd Crefft y Pen-cogyddion ac mae Oliver hefyd wedi ennill dewis o reis ac olewau oddi wrth y noddwyr Riso Gallo a Filippo Berio ac isgellau a glacés gan gwmni Essential Cuisine.