Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr yn elwa ar glwb jiwdo amser cinio rhad ac am ddim o’r enw Jiwdo Sir Gâr sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Sanshirokwai Dojo yn Llanelli.

Caiff y clwb ei redeg ar gampws y coleg yn y Graig gan hyfforddwyr o glwb Sanshirokwai Dojo sy’n gysylltiedig â Chymdeithas Jiwdo Cymru, mewn tîm sy’n cynnwys aelodau cyfredol o’r garfan genedlaethol, pencampwyr cenedlaethol Cymru ac enillwyr medalau’r Gymanwlad.

Mae llawer o fyfyrwyr eisoes wedi manteisio ar y cyfle i ddysgu camp newydd lle maen nhw hefyd yn ennill sgiliau mewn hunan-amddiffyn, gwella cydbwysedd, cydsymudiad, meithrin hyder a gwella iechyd meddwl. 

I’r rheiny sydd am gynyddu eu sgiliau neu ddysgu er mwyn cystadlu, bydd Sanshirokwai yn darparu llwybrau ychwanegol a chefnogaeth trwy ei ddarpariaeth gyda’r nos ar gyfer y cyhoedd yn dojo’r clwb yn Ffordd yr Hen Gastell. 

Cynhelir sesiynau rhad ac am ddim y coleg ar ddydd Mawrth a dydd Mercher o 12.30 i 1.15pm ac 1.15pm i 2pm ac maen nhw ar gael i staff y coleg hefyd. 

Meddai Emyr Rees, un o’r hyfforddwyr yn Sanshirokwai, sy’n arwain y sesiynau hyfforddi yn y coleg: “Rydyn ni wrth ein bodd yn gallu rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff ddysgu jiwdo.

“Mae jiwdo yn fwy na ffurf o hunanamddiffyniad a champ gystadleuol - mae’n ffordd wych i ganolbwyntio ar dwf a datblygiad personol.

“Rydyn ni’n annog pawb i roi cynnig arni gan fod jiwdo nid yn unig yn datblygu ffitrwydd corfforol ond mae’n dysgu amynedd, ffocws a gwytnwch gan gydbwyso’r meddwl a’r corff hefyd.” 

Dysgwch fwy am Sanshirokwai a’r clybiau amser cinio rhad ac am ddim ar gyfer myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr.

The coaches lined up in the gym four of them

Rhannwch yr eitem newyddion hon