Skip page header and navigation

Myfyrwyr yn cyflwyno cynigion o’u syniadau busnes i banel prifysgol yn ystod ymweliad â’r campws

Treuliodd myfyrwyr o Goleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr ddiwrnod yn archwilio bywyd prifysgol ym Mhrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant ble buont yn cystadlu mewn grwpiau i gyflwyno cynigion o’u syniadau busnes i banel prifysgol arbenigol.

Bu myfyrwyr busnes a theithio a thwristiaeth yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Codi Herio Newid y brifysgol ble gofynnwyd i grwpiau o fyfyrwyr ymchwilio i syniadau busnes cynaliadwy a’u cyflwyno.

Roedd yr ymatebion i friff y gystadleuaeth yn cynnwys y cwmni Plannu’r Dyfodol (Planting the Future), a enillodd aur i fyfyrwyr teithio a thwristiaeth Coleg Sir Gâr ar gyfer eu pecynnau hadau arloesol y gellir eu plannu.  Arian enillodd Tanwydd y Dyfodol (Future Fuel), sef menter gan fyfyrwyr busnes Coleg Sir Gâr sy’n defnyddio biodiesel ac enillodd tîm busnes Coleg Ceredigion, Instant Chef, efydd am eu hap atal gwastraff bwyd a ryseitiau.

Yn beirniadu ar banel y brifysgol roedd Dr Alex Bell, uwch-ddarlithydd mewn busnes, Jessica Shore, rheolwr y rhaglen fusnes, myfyriwr busnes a rheolaeth Harri Dendle a Dr Louise Emanuel, cyfarwyddwr academaidd ar gyfer y Sefydliad Rheolaeth ac Iechyd.

Yn ogystal rhoddodd y brifysgol gylchdeithiau o gwmpas ei champws Caerfyrddin lle bu myfyrwyr yn ymweld â’r neuaddau preswyl ac ardal ddigwyddiadau Undeb y Myfyrwyr, ble treulion nhw egwyl amser cinio gyda pizza a ddarparwyd gan PCYDDS.

Mae Navdeep Randhawa yn rhan o’r tîm sy’n dysgu’r diploma estynedig mewn busnes yng Ngholeg Sir Gâr ond mae hi hefyd yn addysgu ar raglenni rheolaeth busnes PCYDDS. Meddai: “Trwy weithio ar y cyd ac fel rhan o bartneriaeth ddeuol y coleg a’r brifysgol, gwnes innau a Jessica Shore o PCYDDS roi ynghyd y syniad ar gyfer y diwrnod. Cymerodd myfyrwyr rheolaeth a busnes y brifysgol drosodd gan gynllunio’r diwrnod cyfan fel rhan o’u cwrs gradd, er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio eu hopsiynau dilyniant.

“Mae cwrs busnes lefel tri’r coleg yn llwybr dilyniant i astudio graddau’n ymwneud â busnes a rheolaeth. Felly roedd yn ddewis amlwg i ni drefnu’r ymweliad a’r gystadleuaeth er mwyn rhoi mwy o brofiad i fyfyrwyr ynghylch cyflwyno cynigion syniadau busnes, yn ogystal â chipolwg ar astudio mewn prifysgol.”

Ychwanegodd Kevin Williams, darlithydd busnes yng Ngholeg Ceredigion: “Roedd yn gyfle gwych i ni weld y cyfleusterau a siarad â staff busnes yn y brifysgol, ac roedd yn brofiad cyflwyno gwych i’n myfyrwyr, yr wyf mor falch ohonynt am ennill gwobr am eu syniad busnes cynaliadwy.”

Rhoddwyd cyfle hefyd i fyfyrwyr sy’n diddori mewn chwaraeon ddod i wybod mwy am academïau chwaraeon a chyfleusterau chwaraeon.

Daeth y diwrnod i ben gyda chyflwyno gwobrau yn Undeb Myfyrwyr y brifysgol.

Staff y colegau yn cael hwyl a spri yn y prifysgol
Students presenting their business ideas

Rhannwch yr eitem newyddion hon