Myfyrwyr yn adfer car clasurol o'r 1970au er mwyn mynd ar daith i godi arian i gefnogi Hosbis Skanda Vale

Mae myfyrwyr cerbydau modur yng Ngholeg Ceredigion ar hyn o bryd yn gweithio ar gerbyd Triumph 1972 a fydd yn teithio o amgylch Cymru yn ystod hanner tymor i godi arian ar gyfer Hosbis Skanda Vale.
Bydd y tiwtor peirianneg cerbydau modur Paul Bashford yn cychwyn ar y daith yn ystod hanner tymor ond cyn hyn, fe groesawodd y grŵp y Chwaer Ally o’r hosbis, ac esboniodd hi waith yr elusen a chafodd hi dro o gwmpas cyfleusterau cerbydau modur y coleg.
Mae’r Chwaer Ally hefyd yn gofalu am lystad Paul, cyn ffermwr sydd â chlefyd niwronau motor (MND) sy’n defnyddio’r hosbis ar gyfer seibiant a hefyd yn mynychu gofal dydd unwaith yr wythnos gyda mam Paul.


Dywedodd Paul Bashford, darlithydd cerbydau modur yng Ngholeg Ceredigion: “Fe wnes i addo i’m myfyrwyr y bydden ni’n gweithio ar brosiect, felly fel rhywun sy’n frwd dros geir clasurol, prynais Triumph 1972, gan wybod y byddai angen cryn dipyn o waith arno.
“Roedd yn gwneud synnwyr i gyfuno’r prosiect hwn gyda digwyddiad codi arian o ystyried y gofal mae fy llystad yn ei dderbyn, oherwydd mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’w fywyd, ei deulu ac i’w iechyd meddwl.


“O safbwynt addysgu, mae’r prosiect hefyd wedi galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau diagnostig a’u sgiliau mecanyddol cyffredinol.
“Mae’r Triumph yn gwbl fecanyddol gyda dim ond y systemau trydanol symlaf, ac mae’r systemau hyn yn cael eu cwmpasu mewn dosbarthiadau theori, ond anaml y cânt gyfle i weld a gweithio ar y technolegau hyn.
“Trwy fynd ati’n ffisegol i osod y systemau hyn sydd fel arfer yn gyfrifiadurol, gallant weld sut mae gosodiadau anghywir yn effeithio ar y ffordd y mae injan yn rhedeg. Mae gwasanaethu injan, asesu cyflwr breciau a systemau hongiad i gyd yn rhan o’u tasgau asesedig ac mae pob un ohonynt wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn.
“Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn ein cefnogi ac yn ein helpu i godi arian oherwydd mae’r hosbis yn gwneud gwaith anhygoel ac mae’n cael ei redeg gyda gofal cyfannol person-ganolog gan grŵp gwych o bobl sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal fy llystad a’i agwedd ei hun tuag at ei salwch.”
