Skip page header and navigation
 Edrych o'r tu ôl, criw o bobl yn gwylio cyflwyniad

Mae myfyrwyr y cyfryngau yng Ngholeg Ceredigion wedi cymryd rhan mewn gweithdai gyda chwmni ffilm Amdani fel rhan o’i gystadleuaeth ffilm fer, Ton Newydd Cymru.

Mae’r cwmni cynhyrchu ffilm a theledu o Geredigion wedi lansio’r gystadleuaeth, sy’n cynnig rhaglen datblygu talent, ac sy’n cael ei beirniadu gan Huw Penallt Jones, Mererid Hopwood, a Gwenllian Gravelle.

Mae ‘Ton Newydd Cymru’ yn gystadleuaeth ffilm fer gyffrous a rhaglen datblygu talent sydd â’r nod o feithrin gwneuthurwyr ffilm newydd ledled Cymru. 

Cynlluniwyd y fenter hon i roi llwyfan i leisiau newydd yn sinema Cymru, gan arwain at gynhyrchu a dosbarthu ffilm fer Gymraeg nodedig.

I gefnogi ymgeiswyr, cynhaliodd Amdani gyfres o weithdai a oedd wedi’u hanelu at bobl ag uchelgais neu dalent newydd ar gyfer adrodd straeon ffilm. Cynhaliwyd y gweithdai wyneb yn wyneb yn Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, ac Aberteifi, ac roeddent yn canolbwyntio ar adrodd straeon, cyflwyno syniadau a sgiliau cyfathrebu.

Mae Ton Newydd Cymru yn gwahodd cyflwyniadau gan ddarpar wneuthurwyr ffilm o 1 Hydref, 2024, i 1 Tachwedd, 2024.  Unwaith y bydd y ffenestr gyflwyno wedi cau, bydd rheithgor yn dewis tri chais ar gyfer y rownd derfynol erbyn 1 Rhagfyr, 2024, a fydd yn ymuno â rhaglen datblygu talent. 

Bydd ffilm yr enillydd terfynol, a ddewisir yng ngwanwyn 2025, yn cael ei chynhyrchu a’i dosbarthu gan y cwmni cynhyrchu, Amdani.

Dywedodd Mererid Hopwood - Archdderwydd uchel ei pharch yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n enwog am ei harbenigedd mewn barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg:  “Rwyf wrth fy modd o gael ymuno â chriw Ton Newydd Cymru fel rhan o brosiect a’i nod yw hyrwyddo celfyddyd creu ffilmiau Cymraeg newydd.  Rwy’n edrych ymlaen at glywed lleisiau storïwyr newydd sy’n gallu adrodd – drwy gyfrwng ffilm – waith sy’n mynnu’n anorfod ein holl sylw.

“Rwy’n dychmygu y bydd rhaid i’r gwneuthurwyr ffilm, i raddau fel beirdd, ymarfer crefft cynildeb, gan obeithio gadael y gwylwyr-gwrandawyr ag atgofion newydd sy’n diddanu ac yn galluogi dealltwriaeth newydd.”

Meddai Huw Penallt Jones – Cynhyrchydd ffilm gyda dros 40 mlynedd o brofiad, sy’n adnabyddus am ei waith ar ffilmiau proffil uchel fel Cold Mountain, The Man Who Knew Infinity a Patagonia:  “Rwy’n falch o gefnogi Ton Newydd Cymru fel beirniad.  Trwy greu ffilmiau byr yn y Gymraeg, rydym yn darparu mynediad i straeon ac iaith Gymraeg, gan gadw hanes cyfoethog y traddodiad llenyddol llafar tra’n croesawu cyfrwng gweledol modern.

“Mae ffilmiau byr yn ymwneud â bod yn gryno.  Rhaid i’r sgript a’r naratif gyfleu stori gymhellol a chlyfar mewn ffordd gryno a deniadol, a’r cyfan o fewn cyfnod byr o amser.“

Beth fyddwn i’n ei ddweud wrth y rheiny sy’n ystyried gwneud cais am Ton Newydd Cymru?  Yn syml iawn: ewch amdani.  Mae’r gystadleuaeth hon yn cynnig llwyfan i rannu eich straeon gyda’r byd, arbrofi gyda’ch syniadau, ac, yn bwysicaf oll, i dderbyn adborth adeiladol a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich crefft.

Ymhlith y rheiny a fynychodd y gweithdai roedd rhai myfyrwyr o gwrs Cyfryngau Creadigol Coleg Ceredigion. Dywedodd Sophia Bechraki, darlithydd cyfryngau yng Ngholeg Ceredigion:  “Fel rhan o’u cwrs, mae gofyn i fyfyrwyr weithio i safon broffesiynol i ddatblygu a chyflwyno syniadau, ac felly roedd yn ddefnyddiol iddynt gael mewnwelediadau ac awgrymiadau gan y rheiny sy’n gweithio yn y diwydiant. 

“Fe wnaeth y myfyrwyr adael wedi cael eu hysbrydoli i gyflwyno ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth.”

Llun: portread Huw Penallt Jones - Chris Stewart a’r lleill Eddie Yeoman

Amy Daniel and Huw Penallt Jones standing by a projector screen taking to a group

Rhannwch yr eitem newyddion hon