Myfyrwyr Ffasiwn a Thecstilau’n cyflwyno arddangosfa Gwehyddu a Gwisgo yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol

Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr yn arddangos gwaith myfyrwyr BA mewn dylunio ffasiwn a thecstilau ar y cyd â’r Amgueddfa Wlân Genedlaethol, ddydd Sadwrn Mai 3.
Gyda chymysgedd o ddyluniadau tecstil cymhleth a darnau ffasiwn blaengar, mae’r arddangosfa’n dathlu arloesedd, crefftwaith a grym dylunio.
Mae’r arddangosfa’n gyfle gwych i ennill mewnwelediad i’r broses greadigol, y sgiliau technegol a’r cysyniadau dylunio sy’n dod â’r gweithiau creadigol yn fyw.
Rhoddir dangosiadau byw gan fyfyrwyr yn ystod y dydd, gan ganiatáu cyfle i’r cyhoedd ymgysylltu mewn gweithdai ymarferol a dysgu mwy am Ysgol Gelf Caerfyrddin.
Mae gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer pob oedran yn cynnwys:
- Brodwaith â llaw i oedolion gan ddefnyddio technegau brodio traddodiadol i greu pwythau addurnol ar ffabrig. Gwehyddu â llaw ar wŷdd pen bwrdd - gwehyddu â llaw ar wŷdd bach, gan ddarganfod sut caiff patrymau cymhleth eu creu.
- Addurno bag tote gan ddefnyddio stensiliau - personoli bag tote gan ddefnyddio dyluniadau stensil a phaentiau ffabrig.
- Gwneud Pompomau - crefft syml a llawn hwyl i bob oed, creu pompomau lliwgar i fynd â nhw adref neu eu defnyddio mewn prosiectau tecstil.
- Gweithgaredd gwnïo â llaw i blant - cyflwyniad ymarferol i wnïo ar gyfer rhai bychan gan ddefnyddio siapiau lledr wedi’u torri’n barod gyda thyllau wedi’u pwnsio, nodwyddau plastig mawr, ac edau neu wlân lliwgar ar gyfer torchau allwedd a chofroddion.
- Gwehyddu â llaw ar fframiau pren bach - Arbrofi gyda gwehyddu ar raddfa sy’n llai, perffaith ar gyfer dechreuwyr sydd am archwilio celfyddyd tecstilau.
- Llyfr darlunio ffasiwn - Gan ddefnyddio casgliad o ddarluniadau ffasiwn a grëwyd gan fyfyrwyr, ewch ati i ddarlunio eich dyluniadau ffasiwn eich hun
-
Dangosiadau byw - trin ffabrig, gwnïo a llunio
Mae Gwehyddu a Gwisgo yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ar agor i’r cyhoedd a gynhelir yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre o Xam i Xpm.
Mae Gwehyddu a Gwisgo yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ar agor i’r cyhoedd a gynhelir yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre o 10yb i 3yd.
Dywedodd Angharad Griffiths, cyfarwyddwr rhaglen BA mewn dylunio ffasiwn yn Ysgol Gelf Caerfyrddin: “Rwyf wrth fy modd yn gweld ein myfyrwyr ail flwyddyn ffasiwn a thecstilau yn dod at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad cydweithredol cyffrous hwn yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol.
“Bydd yr arddangosfa a digwyddiad rhyngweithiol byw hwn yn dathlu eu creadigrwydd, crefftwaith, a’u hymroddiad, gan ddarparu llwyfan unigryw i ymgysylltu â’r gymuned wrth arddangos eu sgiliau.
“Mae’n gyfle gwych i dynnu sylw at yr arloesedd o fewn ein cyrsiau gradd ac i ysbrydoli ymwelwyr o bob oed, Does dim amheuaeth gen i y bydd eu gwaith yn gadael argraff barhaus, gan ddangos y doniau a’r angerdd sy’n diffinio ein myfyrwyr.”

Dydd Sadwrn
3 Mai
Amgueddfa Wlân Cymru