Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr celf a dylunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr wrthi yn arddangos eu gwaith celf sydd wedi cael ei osod ar hysbysfyrddau yn y safle datblygu newydd gwerth miliynau o bunnoedd ym Mhentre Awel. 

Ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin a chwmni adeiladu Bouygues UK, rhoddwyd briff i’r myfyrwyr a oedd yn gofyn am saith o ddyluniadau panel i gynrychioli pob un o gyrchnodau lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys Cymru iachach, Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang a Chymru fywiog ei diwylliant a’i hiaith.

Mae datblygiad Pentre Awel ger Llanelli yn brosiect adfywio allweddol i Gyngor Sir Caerfyrddin a’i nod yw cael effaith gadarnhaol ar y rhanbarth. 

Bu’r myfyrwyr yn bresennol yn lansiad yr arddangosiad newydd ynghyd â phartneriaid cymunedol ar safle Pentre Awel lle roedden nhw’n gallu gweld twf cyson y datblygiad drostynt eu hunain a gweld eu dyluniadau yn eu lle wrth y fynedfa i’r safle. 

Meddai’r myfyriwr celf a dylunio Tyler Davies: “Ffotograff yw fy ngwaith celf i o fy ffrind gorau â blodau, ag ystyr i bob un fel gobaith. Mae’r gwaith yn dangos plastr sydd â’r gair “hope” arno ac mae’n ymwneud â iechyd meddwl a sut y bydd hyn yn helpu pawb gyda’u hiechyd meddwl eu hunain. Ystyr y plastr yw iacháu. Cefais fy ysbrydoli i fynd lawr y llwybr hwn gan fy mod wedi cael brwydrau personol gydag iechyd meddwl ac rwy’n credu ei bod yn neges bwysig i’w rhannu.”

Bu’r myfyrwyr celf a dylunio Lowri Jones, Ffion Jones a William Mee yn sôn am eu rhan nhw. “Defnyddion ni ddetholiad o wahanol ddarnau o waith celf, a grëwyd gennym ninnau ein hunain ac a roddwyd at ei gilydd. Defnyddion ni lawer o wahanol gyfryngau, roedd lluniadu, peintio, dyfrlliw ac acrylig. Yna defnyddion ni lwyfan digidol i wneud y cwbl yn gydlynol fel eu bod yn gweithio gyda’i gilydd. 

“Ar gyfer y panel Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang roedden ni am amlygu’r pethau roedden ni eisoes yn eu gwneud. Felly nid o reidrwydd beth allen ni fod yn gwneud ond yn hytrach canolbwyntio ar y gwaith syfrdanol y mae Cymru yn ei wneud yn barod.”

Meddai Leah Jenkins: “Gweithiodd Evie a minnau gyda’n gilydd ar y darn hwn. Dyluniodd Evie gocynau wyau gan ddefnyddio gwead llinynnol ac ym mhob ŵy ceir gwahanol agwedd gymunedol a chynrychioliad o rai o’r gweithgareddau fydd ar gael yn y ganolfan. Felly’r nofio, ymarfer, yr ardal waith, dawnsio a chartref gofal ar y brig a’r bobl ar y tu allan yn ei wehyddu at ei gilydd, i gyd yn gweithio gyda’i gilydd.”

Ychwanegodd Eva Batten: “Roedd yn wych i allu cael adborth proffesiynol ar hyd y ffordd fel ein bod yn gallu gweithio i gynhyrchu rhywbeth a roddwyd at ei gilydd ar y cyd.” 

Meddai Nina Williams, cynghorwr gwerth cymdeithasol cwmni Bouygues UK ar gyfer Pentre Awel: “Mae datblygiad Pentre Awel yn brosiect adfywio allweddol i Gyngor Sir Caerfyrddin fydd yn cael effaith gadarnhaol enfawr ar y rhanbarth a’r bobl sy’n byw yn y gymuned am flynyddoedd i ddod.

“Mewn cydnabyddiaeth o’r effaith gadarnhaol hon, fe wnaethon ni, Bouygues UK, weithio ochr yn ochr â Choleg Sir Gâr i ddyfeisio prosiect dylunio ar gyfer myfyrwyr y coleg. Roedden ni am i’r hysbysfyrddau o gwmpas y safle gael eu dylunio i fynegi’r effeithiau cadarnhaol a gaiff Pentre Awel ar y gymuned leol. Mae’r myfyrwyr wedi gwneud gwaith anhygoel, i gyd yn cynhyrchu gwaith rhagorol sy’n portreadu gwerthoedd craidd Pentre Awel mewn ffordd drawiadol sy’n ysgogi’r meddwl.

Ychwanegodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Mae cael y cyfle i gwrdd â phobl ifanc Coleg Sir Gâr sydd wedi creu’r darnau gwych hyn o waith celf wedi bod yn brofiad gwerth chweil.  Trwy eu gwaith celf, mae’r myfyrwyr yn dangos eu gweledigaeth o’r hyn y mae Pentre Awel yn ei olygu iddyn nhw ac rwy’n falch bod y rhain yn cael eu harddangos i’r cyhoedd gael eu gweld. Fel y dywedir ar y byrddau, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i Bentre Awel, sef datblygiad y gall pawb gael mynediad iddo. Diolch i’r myfyrwyr a’u tiwtoriaid am eu holl waith caled ar y prosiect hwn.”

Ynglŷn â’r cwrs

Ynghylch Coleg Sir Gâr: Mae Coleg Sir Gar yn ymrwymedig i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer dyfodol llwyddiannus. Mae rhaglen Celf a Dylunio Lefel 3 UAL yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i fyfyrwyr sydd eu hangen i ragori yn y diwydiannau creadigol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Heidi Rees

Pennaeth Celfyddydau Creadigol a Choginiol • Caerfyrddin

heidi.rees@colegsirgar.ac.uk

01554 748019

Dilynwch y timau celfyddydau ar @carmarthenschoolofart @ysgolgelfcaerfyrddin @colegsirgar

Dyluniadau buddugol: 

Bwrdd Cymru Iachach - Isabelle French Wells

Bwrdd Cymru Wydn- Tyler Davies & Ollie Leale

Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang - Ffion Jones, Lowri Jones, Will Mee

Cymru Lewyrchus - Eva Batten a Harper James

Cymru o Gymunedau Cydlynol - Evie Hare a Leah Jenkins

Cymru lle mae’r Gymraeg a Diwylliant yn Ffynnu - Nesta Jones

Cymru Gyfartal - Mica Dundas Thomas a Cerys Fuller

The group outside the site by the hoardings
Group of students outside the site holding paper design
Two girls standing by their design
a group standing in front of the designs outside
A screen with a design on (design demonstrating hope)

Rhannwch yr eitem newyddion hon