Skip page header and navigation
Allison standing on a side angle looking up at work on the wall

Mae myfyrwraig gradd mewn tecstilau wedi disgrifio cwrs nos yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr, fel profiad newid bywyd, a’i hysbrydolodd i ymddeol o’i gyrfa 27 o flynyddoedd mewn bydwreigiaeth a chychwyn ar daith newydd gyffrous i’r celfyddydau creadigol.

Nid yw Alison Fletcher wedi difaru ei phenderfyniad, oherwydd ers dechrau ei gradd, mae ei gwaith wedi ennill prosiect tecstilau clodfawr cysylltiedig â threftadaeth.

Roedd cystadleuaeth y Got Wlân Gymreig Wrth Fesur yn gofyn i gyfranogwyr ddylunio print wrth fesur ar gyfer leinin cot aeaf, gan gymryd ysbrydoliaeth o Gwmni Gwlân Cymru ac ardal Llanusyllt (Saundersfoot), o ble daeth  y ffermwyr a’r gwlân ar gyfer ffabrig y got, yn ogystal â hanes y diwydiant gwlân yn ne Sir Benfro.

Bu myfyrwyr tecstilau’r coleg yn ymweld â Fferm Trevayne, sef y man o ble roedd y gwlân yn tarddu a chafodd Alison ei hysbrydoli tra’n cerdded ar draeth Llanusyllt gerllaw. “Tynnais i lun o Monkston Point o’r traeth,” dywedodd Alison. “I mi roedd siâp y pentir yn symboleiddio’r ardal o ble daeth y gwlân ar gyfer y got benodol hon, a gellir gweld y fferm rhwng y coed yn uwch i fyny’r pentir ac felly defnyddiwyd y ddelwedd ailadroddus hon i greu delwedd wedi’i gwehyddu.”

Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng y Teilwr Bach ac Oasis Caerdydd wedi’i ariannu gan y Gronfa Treftadaeth. 

Caiff y got ei harddangos fel rhan o’r prosiect ‘Cot Wlân Gymreig Wrth Fesur’, yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan tan Ebrill 2025, fel rhan o gasgliad o siacedi a chotiau. 

Mae’r arddangosfa yn arddangos teilwra traddodiadol a sgrîn-brintio, hyrwyddo ffasiwn araf ac yn archwilio hanes a threftadaeth gwlân Cymru. 

Wedi’i gwneud 100% o ffabrig gwlân Cymru gan Gwmni Gwlân Cymru a’i gwehyddu yn y Bristol Weaving Mill, nod menter y got wrth fesur yw creu gwell cysylltiadau rhwng cynhyrchwyr ffabrigau gwlân traddodiadol a ffermwyr defaid yn ne Sir Benfro. 

Gwahoddwyd Alison Fletcher i’r olwg breifat a oedd, meddai yn ‘brofiad cyffrous, syfrdanol’. “Roedd yn teimlo’n rymusol a breintiedig i fod yn rhan o’r fath brosiect cydweithredol anhygoel,” meddai. 

Roedd cam dewr i ymddeol o yrfa lwyddiannus yn y GIG wedi talu ar ei chanfed iddi hi.

Meddai Alison Fletcher: “Sylweddolais pan wnes i’r cwrs cerflunio rhan-amser gyda Lee Odishow fy mod i bob amser wedi eisiau archwilio fy ochr artistig a chreadigol. 

“Roeddwn i wedi bod yn fydwraig am 27 o flynyddoedd, sef gyrfa hir a boddhaus, gyda 23 ohonynt yn gweithio fel bydwr

“Yn 2022 mynychais ddosbarth nos mewn cerameg, a hefyd y cwrs cyflwyniad i fynediad ac yna’r cwrs mynediad i addysg uwch llawn amser ac yn ystod y cyfnod hwn gwnes i benderfynu dechrau’r cwrs gradd anrhydedd BA mewn tecstilau yr wyf bellach yn ei astudio ar gampws Ffynnon Job.

“Rwyf wrth fy modd yn bod yn rhan o Ysgol Gelf Caerfyrddin, rwy’n ei gael yn lle mor gynnes a chroesawgar. 

“Mae’r adran decstilau’n arbennig o gefnogol a fedra i ddim credu gymaint mae fy nghelf a’m sgiliau technegol wedi datblygu yn y flwyddyn gyntaf. 

“Mae’r cwrs yn rhoi llawer o gyfleoedd i ni ac rwy’n teimlo fy mod yn dysgu pethau newydd ac yn datblygu fy ymarfer yn gyson. Gallaf ddweud nad wyf i byth wedi difaru’r penderfyniad eithaf byrbwyll hwnnw gwnes i yn Hydref 2021.

“Hoffwn i ddiolch yn bersonol i Catherine Davies o Teilwr Bach am y cyfle i fod yn rhan o’r prosiect gwych hwn.

Allison in a mustard cardigan and dress standing next to the coat

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau