Skip page header and navigation
Mira outside in nature holding a basket of foraged items
Mira's died yarn, a mix of coral and pink and purples

Mae myfyrwraig gradd mewn tecstilau yng Ngholeg Sir Gâr sy’n gwneud ei llifynnau ffabrig naturiol ac edafedd ei hun wedi ennill grant Busnes Newydd Cynaliadwy am ei gwaith. 

Mae Mira Smith yn fyfyrwraig radd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin sy’n frwdfrydig iawn dros gynaladwyedd.

Mae ei gwaith ysbrydoledig yn cynnwys chwilota am eitemau megis blodau llysiau’r Santes Fair i gynhyrchu llifynnau ffabrig naturiol neilltuol. 

Hefyd mae hi’n nyrs gofrestredig gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn unedau gofal dwys pwysau uchel. Er nad yw’n gallu gweld ei hun yn ymddeol unrhyw bryd yn y dyfodol agos, mae Mira wedi gorfod ailfeddwl am ei bywyd gwaith yn y dyfodol ac mae’n dweud y bydd tecstilau’n chwarae rhan yn y cynllun hwnnw.

Mae Mira’n mynd i ddefnyddio grant Cyngor Sir Caerfyrddin i brynu gwŷdd i helpu datblygu ei gwaith ac mae ganddi atgofion melys o ddefnyddio un gyda’i mamgu yn ei phlentyndod.

Dechreuodd ei thaith tuag at decstilau gydag Ysgol Gelf Caerfyrddin pan astudiodd hi gwrs nos mewn cerameg. Pan orffennodd y cwrs ac nid oedd ar gynnig yn y tymor dilynol, dewisodd hi gwrs nos mewn gwau â pheiriant. “Roedd y cwrs a’r addysgu yn ardderchog,” meddai Mira. “Ces i fy hun yn ei fwynhau gymaint ac o ganlyniad gwnes i gofrestru ar y rhaglen radd mewn tecstilau.”

Yn y coleg, mae Mira ar hyn o bryd yn archwilio defnyddio Photoshop i ddylunio sgarffiau. Mae’n archwilio a chydbwyso technegau traddodiadol a digidol wedi’u llywio gan waith ymchwil. Y tymor nesaf bydd hi’n defnyddio ei hedafedd sydd wedi’u lliwio’n naturiol mewn technegau gwau â pheiriant a gwehyddu. 

Gyda’r cyrchnod o gyflawni sero net ar gyfer cynaladwyedd, mae Mira wedi mynychu hyfforddiant lliwio naturiol gyda’r dylunydd tecstilau Shan Lester ac mae hi wedi’i hysbrydoli gan y posibiliadau. Mae hi wedi bod yn lliwio edafedd ar gyfer ei phrosiectau tecstil ac mae hi’n mwynhau’r arbrofi. 

Meddai Mira Smith, myfyrwraig tecstilau Ysgol Gelf Caerfyrddin: “Mae astudio tecstilau wedi bod yn daith anhygoel i mi ac rwy’n dwlu ar yr agweddau creadigrwydd ymarferol a chynaladwyedd mae’n eu cynnig.. 

“Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn rhoi pwyslais mawr ar gynaladwyedd ac ailgylchu, sy’n taro deuddeg gyda mi, ac rwyf wedi cwblhau tri chwrs cynaladwyedd yr haf hwn yn defnyddio technegau eco-gyfeillgar.

“Mae’r addysgu a’r gefnogaeth yn Ysgol Gelf Caerfyrddin wedi bod yn wych,  mewn cerameg a thecstilau hefyd. Mae’r staff yn hynod o ganolbwyntiedig, brwdfrydig ac ymatebol, sy’n gwneud y profiad dysgu hyd yn oed yn fwy gwerth chweil.”

Mae Mira nid yn unig yn meithrin yr ethos o ddefnyddio deunyddiau natur ei hun, mae hi hefyd yn gweithio fel arbenigwraig dysgu addysgol ar gyfer  cwmni meddygol lle mae’n cefnogi eraill i ddatblygu a llwyddo.

Yn ogystal mae hi’n rhan o Small99’s People, Planet, Pint, sef cymuned leol a byd-eang o bobl sydd â chynaladwyedd yn ganolog iddi. Yn ddiweddar cafodd ei hysbrydoli gan sgwrs ar brosiect morwellt a gyflwynwyd gan blanhigfa forwellt ac mae hi’n awyddus i ‘ledaenu’r gair’ trwy ddefnyddio celf.

Ffotograffau: Mira yn chwilota am lysiau’r Santes Fair, bath lliwio yn defnyddio blodau llysiau’r Santes Fair ar fynd, edafedd lliwiedig naturiol yn barod ar gyfer gwaith prosiect.

Rosebay Willow in a pan

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau