Skip page header and navigation
Libby holding her medal with a ISEiW branding behind her

Mae hyn yn newyddion gwych i Libby, rwyf yn hapus dros ben iddi. Mae llwyddiant Libby yn brawf bod y Rhaglen Mynediad Ieuenctid yn rhaglen hynod fuddiol i ddysgwyr y mae angen dull dysgu person-ganolog arnynt. Daniel Williams, Darlithydd mewn Coginio Proffesiynol.

Mae’r Rhaglen Mynediad Ieuenctid wedi helpu Libby Bowen i yrru ei hastudiaethau o feddu ar y presenoldeb lleiaf posibl yn yr ysgol i ennill medal aur am sgiliau cynhwysol: paratoi bwyd yn rownd derfynol Cymru yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Ar hyn o bryd, mae hi ar gwrs arlwyo a lletygarwch o dan y Rhaglen Mynediad Ieuenctid sy’n helpu pobl ifanc nad ydyn nhw’n ymgysylltu yn yr ysgol, i astudio yn y coleg.

Roedd presenoldeb Libby yn yr ysgol o dan 20% gan nad oedd hi’n ymgysylltu, nid oedd hi’n hoffi grwpiau mawr ac oherwydd nad oedd hi’n hapus, arweiniodd at rai problemau iechyd meddwl.

Ers yn bum mlwydd oed, mae hi wedi bod yn coginio gyda’i mam a’i mam-gu sydd ill dwy yn ben-cogyddion, ac fe awgrymodd athrawes ysgol gefnogol i fam Libby y gallai Libby ddefnyddio’r brwdfrydedd hwn ar y Rhaglen Mynediad Ieuenctid.

Yn dilyn hyn, mynychodd Libby gyfweliad anffurfiol gyda’i gweithiwr Mynediad Ieuenctid yn y coleg i benderfynu ai dyma’r llwybr iawn iddi, ac ers astudio yn y coleg, mae ei phresenoldeb bellach bron yn 90% gan ei bod hi’n astudio pwnc y mae ganddi ddiddordeb ynddo ar sail llawn amser.

Mae Libby bellach yn hyfforddi dan ben-cogyddion proffesiynol a staff lletygarwch ym mwyty hyfforddi’r coleg, Cegin Sir Gâr ym Mhibwrlwyd, lle anogir profiad ymarferol yn y gegin a blaen y tŷ. 

Dywedodd Libby Bowen: “Yr hyn rwy’n ei fwynhau am y coleg yw fy mod i eisiau bod yma, mae yna ryddid, ymddiriedir ynoch mewn amgylchedd anffurfiol ac mae’r grŵp yn fach gyda dim ond saith ohonom ni.

“Rwyf wedi dewis astudio pwnc rwy’n ei fwynhau ac mae’r tiwtoriaid yn gefnogol.” 

Mae ei gweithiwr ieuenctid Mynediad Ieuenctid, Jodie Morgan bob amser ar gael ar gyfer unrhyw gymorth sydd ei angen ar Libby. Meddai: “Cyn dechrau yn y coleg, fe wahoddodd y Rhaglen Mynediad Ieuenctid Libby i gymryd rhan mewn gweithgareddau pontio er mwyn helpu gydag adeiladu tîm a magu hyder.

“Roedd hyn yn cynnwys sesiwn goginio mewn Clwb Ieuenctid lle gwnaeth hi gwrdd â myfyrwyr Mynediad Ieuenctid eraill.

“Mae Libby wedi gwneud yn arbennig o dda yn enwedig gan ennill medal aur Cymru yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, roedd hynny’n gamp anhygoel ond mae hi wedi cydio ym mhob cyfle gyda’i dwy law ac mae’n haeddu’r gydnabyddiaeth hon a fydd yn helpu i roi hwb i’w hyder.” 

Ychwanegodd Daniel Williams, darlithydd coginio proffesiynol:  “Mae hyn yn newyddion gwych i Libby, rwyf yn hapus dros ben iddi, mae hi wedi gweithio’n galed iawn ac wedi ymrwymo i’w hastudiaethau.

“Mae llwyddiant Libby yn brawf bod y Rhaglen Mynediad Ieuenctid yn rhaglen hynod fuddiol i ddysgwyr y mae angen dull dysgu person-ganolog arnynt.  

“Mae Libby wedi dangos brwdfrydedd, ffocws rhagorol, ac ymrwymiad i’w hastudiaethau. Mae’n bleser pur ei chael hi’n ffynnu yn ei hastudiaethau yn yr adran arlwyo yng Ngholeg Sir Gâr.”  

Cefnogir y rhaglen Mynediad Ieuenctid gan Wasanaeth Cymorth Ieuenctid Cyngor Sir Caerfyrddin ac mae’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â’r ysgol, y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a’r coleg sydd i gyd yn cydweithio i ddilyn cynllun dilyniant ar gyfer pob myfyriwr, gan fonitro eu lles a’u perfformiad cyffredinol.

Libby giving a thumbs up at her cooking station

Rhannwch yr eitem newyddion hon