Myfyriwr graddedig mewn Ffasiwn a Dylunio yn cystadlu ar raglen ITV M&S:Dress the Nation
Mae Ryan Rix, sy’n raddedig o Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr, ar hyn o bryd yn cystadlu ar raglen ITV sef M&S:Dress the Nation yn arddangos ei ddyluniadau sy’n canolbwyntio ar y gallu i addasu a hygyrchedd.
Ers graddio yn 2023 gyda gradd mewn Dylunio Ffasiwn, mae Ryan wedi bod yn tyfu ei fusnes ei hun, arddangos casgliadau, a mireinio ei grefft. Ei fwriad yw dylunio ffasiwn sydd ar gael i bawb, wedi’i ysbrydoli gan ei brofiad o gael ei eni heb ran isa’r fraich chwith. Ac yntau wedi cael trafferth dod o hyd i ddillad cyfforddus pan oedd yn tyfu i fyny, mae Ryan yn benderfynol o greu dyluniadau sy’n grymuso pobl i deimlo’n hyderus a pheidio ag ymguddio yn eu dillad.
Mae Ryan yn blaenoriaethu hygyrchedd yn ei ddyluniadau, gan gynnwys nodweddion fel siacedi â sipiau ar y llewys, y gellir eu gadael arno neu eu diosg er mwyn eu defnyddio’n hawdd. Yn aml mae’n rhoi dewisiadau eraill fel Velcro a stydiau yn lle botymau, gan sicrhau bod pobl ag anableddau yn gallu gwisgo eu hunain yn annibynnol.
Bydd Ryan yn mynd â’r gwerthoedd a’r technegau hyn gyda fe wrth iddo gystadlu ar Dress the Nation, gan ddangos ei ymrwymiad i ffasiwn hygyrch a chynhwysol. Mae’r gystadleuaeth yn cynnig cyfle sy’n newid bywyd, gyda’r enillydd yn sicrhau rôl ddylunio a ddymunir yn fawr gyda chwmni M&S a chael ei gasgliad pwrpasol i’w weld mewn siopau dewisedig.
Meddai Ryan ar ei gyfrif Instagram: “Rwy’n cofio diwrnod cyntaf ffilmio. Roeddwn i mor emosiynol a nerfus, ond rwy’n ymfalchïo yn yr hyn rwyf wedi’i greu a’r ffaith fy mod yn gallu cynrychioli pobl fel fi ac anabledd mewn ffasiwn. Mae mor bwysig! Mae angen i ffasiwn addasadwy a hygyrch fod llawer yn fwy amlwg.”
Gweler Ryan ar M&S:Dress the Nation ar ITV1 bob nos Fawrth am 8pm.