Myfyriwr Arlwyo Coleg Ceredigion yn Ennill Ysgoloriaeth Deithio Fawreddog i Wella Sgiliau Coginiol

Mae myfyriwr arlwyo ail flwyddyn Coleg Ceredigion yn Aberteifi wedi ennill Ysgoloriaeth Deithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru (The Worshipful Livery Company of Wales). Bydd y wobr yn ei alluogi i fynychu dau gwrs paratoi bwyd arbenigol i helpu datblygu ei astudiaethau a’i yrfa mewn gwasanaeth bwyd ac arlwyo.
Bydd Charles Watson yn defnyddio ei Wobr i ariannu dau gwrs byr arbenigol. Y cyntaf fydd cwrs paratoi cig yn yr Academi Gigyddiaeth yng Nghwmni Castell Howell yn Cross Hands, prif gyflenwr cigoedd a dofednod ffres i fusnesau ar draws De Cymru, ac ar gyfer yr ail, fe fydd yn mynychu cwrs yng Ngwmni Swansea Fish i ddatblygu ei sgiliau mewn paratoi pysgod.
Bydd y ddau gwrs yn datblygu ei wybodaeth a’i sgiliau mewn paratoi bwyd arbenigol. Meddai: “Diolch i’r wobr hon gan Gwmni Lifrai Cymru, mae cyfle gen i nawr i deithio i’r ddau le hyn ar gyfer yr hyfforddiant arlwyo arbenigol hwn. Rwy’n siŵr bydd mynychu’r ddau gwrs yn fy helpu i’n fawr iawn i ddatblygu fy ngyrfa”.
Sefydlwyd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yn 1993 ac un o’i nodau yw “hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau yng Nghymru”. Cyflawnir hyn drwy helpu pobl ifanc ar draws Cymru i ddatblygu eu talentau a’u sgiliau trwy gyfrwng rhaglen wobrwyo flynyddol o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol, yn ogystal ag i brentisiaid a phobl ifanc yn y lluoedd arfog.
Meddai llefarydd ar gyfer Y Cwmni: “Un o nodau’r Cwmni yw annog a chefnogi myfyrwyr i wneud cynnydd gyda phrosiect penodol. Rydyn ni’n codi arian trwy amrywiol ddigwyddiadau elusennol a hefyd trwy estyn allan, nid yn unig i’n Lifreiwyr ar gyfer cymorth ariannol, ond hefyd i’r gymuned ehangach yng Nghymru. Rydyn ni’n hapus iawn ein bod yn gallu cefnogi Charles wrth iddo symud ei astudiaethau ymlaen yn y ffordd yma.”
Uchelgais yrfaol Charles yw perchen ar ei fwyty ei hun o’r enw ‘7 Nations’, a fyddai’n cynnwys bwydlenni blasu o amrywiol ddiwylliannau ar draws y byd. I ddechrau mae’n gobeithio perchen ar wagen fwyd ac yna ehangu i fwyty, yn ddelfrydol mewn canolfan o bwys yng Nghymru.