Llwybr Olena at gyflawni ei breuddwydion yn y diwydiant celf a dylunio
Mae Olena Konstantinova, sy’n 19 oed, yn ffoadur Wcreinaidd a deithiodd ar ei phen ei hun i fyw yng Nghymru.
Pan gyrhaeddodd Olena’n ddiogel yng Nghymru, gyda chymorth a chefnogaeth fe wnaeth ddarganfod Diploma Sylfaen CBAC mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Ceredigion.
Ers iddi astudio ym mis Medi mae hi eisoes wedi bod yn gwneud ceisiadau i brifysgolion ac mae hi wedi sicrhau cynnig amodol i astudio yn Ysgol Gelf Caergrawnt ym Mhrifysgol Anglia Ruskin.
Meddai Olena:“Rwyf wedi mwynhau lluniadu a bod yn greadigol erioed. Mae fy aelodau teuluol wedi bod yn dda mewn celf erioed ac wedi fy ysbrydoli i wneud celf yn fy nyfodol. Penderfynais i fy mod am fynd i brifysgol i astudio darlunio felly astudio’r cwrs sylfaen mewn celf yng Ngholeg Ceredigion oedd y cam naturiol i’m helpu i gyrraedd y brifysgol.
“Ers astudio yng Ngholeg Ceredigion, rwyf wedi ennill mwy o hyder yn fy ngwaith ac rwyf wedi gwneud cynnydd da sydd wedi fy mharatoi ar gyfer y brifysgol. Mae fy nghymheiriaid yn gefnogol iawn ac mae’n braf cael pobl o’ch cwmpas sy’n eich deall ac sydd â’r un diddordebau. Mae celf yn rhan ohonof ac ni allaf ddychmygu fy hun hebddi. Rwy’n angerddol iawn ac rwy’n teimlo’n ddiolchgar i allu bod ar y llwybr i wneud celf fel gyrfa.”
Mae’r Diploma Sylfaen yn gwrs blwyddyn, dwys a gynlluniwyd i roi profiad trylwyr a chynhwysfawr i ddysgwyr o gelf, crefft, dylunio a’r cyfryngau. Mae’r cwrs hwn y mae CBAC yn gorff dyfarnu iddo yn galluogi myfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus o ran eu dilyniant gyrfaol i Addysg Uwch a / neu gyflogaeth.
Mae’r cymhwyster yn canolbwyntio ar ddatblygu creadigrwydd, deall deunyddiau a thechnegau, egwyddorion sylfaenol celf a phwysigrwydd ymchwil cyd-destunol. Ei nod yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu disgyblaeth waith gadarn drwy ymarfer rheolaidd a helaeth ac mae’n addas ar gyfer myfyrwyr hŷn (17 a hŷn) sy’n dymuno ehangu eu galluoedd a’u dealltwriaeth o gelf.