Georgia yn llywyddu gweithdy ac yn siarad ar banel yn Uwchgynhadledd Include yn Llundain
Gwahoddwyd Georgia Theodoulou, sylfaenydd ac arweinydd ar gyfer chwaraeon yn ymgyrch Our Streets Now a darlithydd Saesneg yng Ngholeg Sir Gâr, i lywyddu gweithdy a siarad ar banel yn Uwchgynhadledd Include yn Llundain eleni.
Uwchgynhadledd Include yw cynhadledd fwyaf y DU sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn chwaraeon. Mae’r Uwchgynhadledd yn lle i glywed gan leisiau blaenllaw ar draws y sector, mynychu gweithdai arbenigol a chysylltu ag eraill sy’n frwdfrydig ynghylch gyrru newid.
O glybiau chwaraeon llawr gwlad i dimau proffesiynol, mae Georgia wedi bod yn arwain ymdrechion i fynd i’r afael â materion dybryd yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol a gwahaniaethu ar sail rhyw ym myd chwaraeon. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddeall a mynd i’r afael ag aflonyddu ac ar yr un pryd gwella’r modd y caiff datgeliadau eu trin a’u cofnodi ar draws y diwydiant chwaraeon.
Yn ystod yr Uwchgynhadledd, cyflwynodd Georgia weithdy ar frwydro yn erbyn aflonyddu rhywiol mewn chwaraeon a bu’n siarad fel rhan o’r panel terfynol ar sut i wneud chwaraeon yn saffach i bawb.
Roedd rhai o fynychwyr ei gweithdy’n cynnwys ffigyrau allweddol o Sefydliad Chwaraeon Lloegr, yr Undeb Rygbi, Arsenal, Aston Villa, Chwaraeon y DU a Gymnasteg Prydain.
Yn ei gweithdy, treiddiodd Georgia i gymhlethdodau aflonyddu rhywiol o fewn chwaraeon. “Rydyn ni’n gwybod bod aflonyddu rhywiol yn wael ac yn gyffredin, yn enwedig ymhlith merched ifanc mewn ysgolion a lleoliadau addysg. Ond mae’r ystadegau’n dringo i lefelau astronomaidd pan edrychwch chi ar chwaraeon,” rhannodd hi.
Roedd y sesiwn yn archwilio pam fod aflonyddu’n aml yn cynyddu mewn chwaraeon, yn trafod dynameg perthnasoedd athletwyr-hyfforddwyr, yr ofn o gael eu hynysu o’r tîm, a’r ansicrwydd ynghylch canlyniadau codi llais.
Cafodd Georgia wahoddiad hefyd i siarad ar banel yn ymdrin â sgandalau ym myd chwaraeon fel sgandal Gymnasteg UDA. Cododd bryderon ynghylch hyfforddiant diogelu a lles mewn chwaraeon, gan dynnu sylw at ddiffygion cyfredol.
“Y broblem gyda diogelu,” esboniodd hi, “yw ei fod yn canolbwyntio’n drwm ar ymddygiad lefel-droseddol fel trais rhywiol, cam-drin rhywiol, ac esgeulustod.
“Nid yw’n paratoi pobl i ymdrin â materion lefel-is fel casineb at wragedd, aflonyddu rhywiol neu ffobia ar sail rhyw neu bobl cwiar. Mae angen i ni ddechrau mynd i’r afael â’r materion ‘lefel-is’ hyn os ydyn ni am waredu’r rhai lefel-uwch.”
Roedd neges Georgia yn glir: i atal sgandalau yn y dyfodol, mae angen i chwaraeon wella hyfforddiant i ymdrin â sefyllfaoedd anodd. “Mae angen i ni i gyd wella o ran cael sgyrsiau anghyfforddus,” pwysleisiodd Georgia, gan gadarnhau’r angen am addysg gynhwysfawr o gwmpas aflonyddu a gwahaniaethu mewn chwaraeon.
Wrth edrych ymlaen, mae gan Georgia a’i thîm yn Our Streets Now gynlluniau uchelgeisiol. Y flwyddyn nesaf, maen nhw’n bwriadu lansio cynllun llysgenhadon ifanc, gan adeiladu ar lwyddiant eu hymgyrch llysgenhadon gyda Charlotte Henshaw, pencampwraig ddwbl Baralympaidd ac Alan Sinclair, cyn aelod o dîm Prydain Fawr a phencampwr y byd mewn rhwyfo.
Bydd y fenter hon yn recriwtio eiriolwyr ifanc o brifysgolion a chlybiau chwaraeon llawr gwlad, gan roi’r offer iddynt i arwain newid o fewn eu cymunedau a thu hwnt.
Gyda thîm sy’n cynyddu a mentrau sy’n ehangu, mae ymgyrch Georgia’n barod i wthio ymhellach i chwaraeon elit, yn cynnwys clybiau pêl-droed uwch-gynghrair a rygbi’r undeb, gan sicrhau bod diogelu ac atal aflonyddu’n dod yn rhan annatod o ddiwylliant chwaraeon ar bob lefel.
Mae gwaith Georgia yn nodyn atgoffa pwerus, er bod cynnydd wedi’i wneud, mae llawer i wneud o hyd i greu amgylchedd saffach, mwy cynhwysol ar draws chwaraeon ar bob lefel.