Evanna yn ennill medal arian y DU am ei sgiliau mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Gydag uchelgais i ddod yn gynghorwr neu weithiwr cymdeithasol, mae Evanna Lewis ar y llwybr iawn i yrfa werth chweil wrth iddi ennill gwobr arian am ei sgiliau iechyd a gofal cymdeithasol yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills y DU.
Mae’r gystadleuaeth, a gynhaliwyd ym Manceinion, yn cynnwys penllanw o fyfyrwyr a phrentisiaid o bob rhan o’r DU sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau rhanbarthol blaenorol.
Chwaraeodd Evanna ran ddisglair yn y noson wobrwyo lle cyhoeddwyd y tri phrif enillydd medal ym mhob categori a chyflwynwyd eu medalau iddynt.
Fe wnaeth cychwyn y coleg fel myfyrwraig Dechrau Newydd ganiatáu i Evanna gael cyflwyniad i fywyd coleg. Yna symudodd ymlaen i ennill cymhwyster gofal plant lefel un a bellach mae hi’n astudio ar gwrs iechyd a gofal cymdeithasol lefel dau. Fel rhan o hyn, mae hi hefyd ar gwrs cyflwyniad i gynghori achrededig lefel dau sy’n cael ei ddyfarnu gan Gorff Dyfarnu Canolog Cynghori a Seicotherapi (CPCAB).
Aelod o’r teulu wnaeth ysbrydoli Evanna i feddwl am iechyd a gofal cymdeithasol fel gyrfa a dywedodd wrthi pa mor werth chweil yw’r gwaith. Dyma a sbardunodd ddiddordeb Evanna mewn iechyd ac iechyd meddwl yn arbennig.
Dywedodd Evanna Lewis, a wnaeth gystadlu yn y gystadleuaeth sgiliau sylfaen mewn iechyd a gofal cymdeithasol: “Ar y dechrau, roedd yn rhaid i mi wneud tasg senario ar-lein cyn cystadlu wyneb yn wyneb.
“Yna, yn y gystadleuaeth, roedd yn rhaid i mi wneud tasg senario arall lle’r oedd rhaid i mi adolygu cynllun gofal claf ac ychwanegu unrhyw ofynion ychwanegol os oedd angen.
“Ar ddiwedd y tasgau, gofynnodd y beirniaid gwestiynau i mi ynglŷn â sut roeddwn i’n teimlo yr aeth pethau ac a fyddwn i wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol.
“Yn ogystal cawsom ein profi ar ddefnyddio technegau hylendid yn ymwneud â gofal cleifion.
“Ar hyd yr holl brofiad, fe wnes i fwynhau dod i adnabod fy athrawon a’m cyd-gystadleuwyr a thrwy wneud y gystadleuaeth hon, mae wedi datblygu fy hyder a fy sgiliau cyfathrebu oherwydd rwyf wedi gorfod siarad â phobl newydd a mynd i leoedd newydd ar fy mhen fy hun. Felly mae wedi helpu fy hyder cryn dipyn yn ogystal â bod yn brofiad da ac yn ychwanegiad da at eich CV hefyd.”
Bwriad Evanna yw parhau ar ei thaith iechyd a gofal cymdeithasol nes ei bod yn barod i ddilyn cwrs cynghori a dechrau gyrfa naill ai mewn cynghori neu waith cymdeithasol.
Cafodd y fyfyrwraig iechyd a gofal cymdeithasol o Goleg Sir Gâr, Lilly Kendall, ei dewis hefyd i gystadlu yn yr un categori.
Meddai Annette Grove, sy’n ddarlithydd mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngholeg Sir Gâr: “Rwyf yn falch iawn o Evanna am gystadlu yng nghystadleuaeth WorldSkills y DU ac am ennill medal arian.
“Trwy gydol y gystadleuaeth, dangosodd Evanna sgiliau neilltuol mewn cyfathrebu, datrys problemau, ac empathi, sy’n hanfodol wrth ddarparu gofal o ansawdd uchel yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.
“Yn ogystal, dangosodd Evanna ymrwymiad diwyro wrth ymgymryd â hyfforddiant ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills y DU a mynd y tu hwnt i’r disgwyl.
“Mae’r profiadau hyn wedi rhoi’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i Evanna er mwyn rhagori ym myd iechyd a gofal cymdeithasol. Tynnodd y gystadleuaeth sylw hefyd at allu Evanna i weithio’n dda o dan bwysau ac i wneud penderfyniadau cyflym mewn senario byd go iawn a all ddigwydd yn gyflym o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.”