Skip page header and navigation

Mae athro llythrennedd yng Ngholeg Sir Gâr yn cymryd rhan mewn ymarfer gwrthdroi rôl gyda’i myfyrwyr fel rhan o’r rhaglen ‘Addysgu’r Athro’.

Darlithydd yn y tîm Gwella Sgiliau yw Alex Huggett ac mae’n addysgu ar raglen ailsefyll TGAU Saesneg y coleg, sy’n cynnig ail gyfle i fyfyrwyr gwblhau eu cymhwyster.

Mae hi’n cymryd rhan yn y rhaglen, a ddechreuwyd yn wreiddiol yng Ngholeg Solihull, lle darganfu’r darlithydd Rachel Arnold bod ymgysylltu â myfyrwyr, o fewn eu meysydd pwnc galwedigaethol eu hunain, yn gwella perfformiad a morâl myfyrwyr. 

Mae Alex Huggett yn dilyn arweiniad Rachel a hyd yn hyn mae hi wedi cymryd rhan yn nosbarthiadau ei myfyrwyr lle maen nhw’n troi’r byrddau arni ac yn addysgu rhannau o’r cwrs y maen nhw’n ei astudio iddi. 

Hyd yn hyn, mae hi wedi dysgu sut i ofalu am geffylau yn eu hamgylchedd dan do ac awyr agored, wedi cymryd rhan mewn gwasanaeth lletygarwch ym mwyty hyfforddi’r coleg - Cegin Sir Gâr, a chyn hir bydd hi’n dysgu sut i goginio’n broffesiynol a dysgu am chwaraeon gyda’i myfyrwyr eraill.

Mae ailsefyll arholiadau TGAU yn deimlad brawychus yn enwedig pan fydd y myfyriwr yn mwynhau hwb newydd i’w fywyd yn y coleg yn astudio rhywbeth mae’n ei fwynhau’n fawr.  Ond gall fod ag ofn methu dro ar ôl tro o hyd a gall hyn arwain at iddo deimlo nad yw’r gallu ganddo.

Meddai Rebecca Davies, rheolwr sgiliau yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae cymryd rhan yn y rhaglen hon yn dod â manteision lluosog i staff a myfyrwyr fel ei gilydd.

“Mae Alex wedi meithrin perthnasoedd cryfach gyda myfyrwyr oherwydd mae hi wedi eu gweld yn ffynnu yn eu hamgylchedd dysgu.  Yn ogystal, mae’r profiad wedi rhoi’r cyfle i gydweithio â’r meysydd cyfadran - gyda’n gilydd rydyn ni’n cefnogi’r dysgwyr i’w helpu i lwyddo wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau. 

“Mae’r myfyrwyr wedi ymateb yn dda ac maen nhw’n llawer mwy eiddgar yn eu dosbarthiadau TGAU ar ôl dysgu’r sgiliau maen nhw’n rhagori ynddynt i’w hathro.”

Ychwanegodd Alex Huggett, darlithydd yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae bod yn nosbarthiadau prif ffrwd fy myfyrwyr wedi gwneud gwahaniaeth i bawb a gymerodd ran ac yn ogystal mae wedi cynnig cipolwg i mi ar fy myfyrwyr a’u rhaglenni dysgu amrywiol.

“Trwy gymryd rhan, rwyf hefyd yn gallu gweld bod cyfle i drosglwyddo sgiliau rhwng eu cyrsiau galwedigaethol a’r lefelau llythrennedd a rhifedd rydym yn ceisio anelu atynt.”

 Alex y tiwtor yn sgubo gwair mewn ceffylau
Alex y tiwtor allan yn y maes gyda myfyriwr
Alex y tiwtor yn dysgu arlwyo

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau