Skip page header and navigation
Athrawes yn arwain ei myfyriwr

Ydych chi’n meddwl am yrfa werth chweil a boddhaus mewn Nyrsio, Ffisiotherapi, Gwaith Cymdeithasol, Iechyd Meddwl, Addysgu Cynradd a Babanod, neu Therapi Iaith a Lleferydd?

Yng Ngholeg Ceredigion, rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant sydd wedi’u cynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i rôl eich breuddwydion—boed hynny drwy wneud gradd neu’n uniongyrchol i mewn i gyflogaeth.

Gweler ein Cyrsiau Gofal Iechyd a Gofal Plant

Yng Ngholeg Ceredigion, rydym yn darparu amgylchedd dysgu cefnogol a chynhwysol, gyda mynediad i gyfleusterau rhagorol, gan gynnwys llyfrgell sydd ar gael yn ystod oriau agor y coleg.

Yn ddiweddar, cafodd ein myfyrwyr y cyfle anhygoel i deithio i Alberta, Canada, i archwilio gwasanaethau gofal iechyd ac addysg - taith a fu’n hynod fuddiol i fyfyrwyr a staff.

Rhannodd y fyfyrwraig Anna Smaldon-Hill ei phrofiad: “Roedd treulio 10 diwrnod yn Alberta, Canada, yn dipyn o gorwynt. Cefais fy nghyfoethogi gan wybodaeth a phrofiadau newydd, yn addysgol ac yn emosiynol. Mae’n adeg yn fy mywyd y byddaf yn ei gofio am amser maith - mae wedi cael effaith drawiadol arnaf, ac rwy’n gwybod y byddaf yn cymryd llawer o’r hyn a ddysgais i’m gyrfa yn y dyfodol.” 

Meddai Sara Jones tiwtor y cwrs: “Mae ein staff profiadol wedi gweithio yn y sector ac wedi meithrin cysylltiadau cryf â diwydiant. Rydym yn darparu profiad byd go iawn, arweiniad arbenigol, a chyfleoedd dilyniant gwych - boed hynny yn y brifysgol neu gyflogaeth mewn gofal iechyd neu ofal cymdeithasol.”

 

Rhannwch yr eitem newyddion hon