Skip page header and navigation

Profwyd y cwrs Sylfaenol Basis mewn Agronomeg yng Ngholeg Sir Gâr i fod yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer y rheiny sydd o ddifrif ynghylch datblygu eu gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth. 

Fe wnaeth un fyfyrwraig ddiweddar, Hayley Lewis, rannu sut gwnaeth y cwrs ddarparu sylfaen neilltuol iddi mewn theori agronomeg, gan roi’r wybodaeth hanfodol iddi y mae hi bellach yn ei defnyddio bob dydd wrth weithio gyda ffermwyr. Meddai Hayley: “Mae’r wybodaeth a gefais yn fy helpu i gynorthwyo ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus.”

Mae strwythur y cwrs yn gynhwysfawr, gan gwmpasu meysydd allweddol megis gwyddor pridd, rheolaeth cnydau, a rheoli plâu. Mae’r dull ymarferol hwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth ddwys o agweddau hollbwysig agronomeg. Dywedodd Hayley: “Roedd yr agwedd ymarferol tuag at ddysgu yn arbennig o werthfawr. Fe wnaeth gwybodaeth eang a brwdfrydedd Jonathan, y tiwtor, wneud y broses ddysgu’n neilltuol o hawdd.”

Mae’r diwydiant amaethyddiaeth sy’n symud yn gyflym yn gofyn eich bod yn cadw’n gyfoes gyda’r tueddiadau a thechnolegau diweddaraf er mwyn sicrhau llwyddiant busnes. Mae cwrs Sylfaenol Basis mewn Agronomeg yn sicrhau bod myfyrwyr yn hyddysg ynghylch y datblygiadau mwyaf newydd a’r arferion gorau. 

Wrth adfyfyrio ar ei phrofiad, meddai Hayley: “Ces i’n bersonol y cwrs Sylfaenol Basis mewn Agronomeg i fod yn fuddsoddiad yn fy nyfodol. P’un a ydych yn bwriadu dwysáu eich gwybodaeth, gwella eich sgiliau, neu ehangu eich rhwydwaith proffesiynol, mae’r rhaglen hon yn bodloni pob gofyniad. Rwy’n ei hargymell yn fawr i unrhyw un sydd o ddifrif ynghylch cael effaith ystyrlon ar ei fferm ei hunan neu o fewn y sector amaethyddol.”

Gyda’i ffocws cryf ar theori a’i gymhwyso’n ymarferol, mae cwrs Sylfaenol Basis mewn Agronomeg yng Ngholeg Sir Gâr yn ddewis ardderchog ar gyfer y rheiny sy’n ymrwymedig i wneud cyfraniad parhaus i amaethyddiaeth. 

A woman in a vest featuring the CCF logo, smiling and standing confidently

Rhannwch yr eitem newyddion hon