Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn disgleirio gyda dros 20 o fedalau yn rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru

Diolch i’n staff a’n myfyrwyr anhygoel am wneud noson wobrwyo Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddathliad o dalent, ymroddiad a chyflawniad.
Mae eich gwaith caled a’ch brwdfrydedd yn parhau i lunio dyfodol mwy disglair i bawb. Daliwch ati i ymdrechu, daliwch ati i ysbrydoli.” Vanessa Cashmore, is-bennaeth
Gyda’i gilydd enillodd myfyrwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion 23 o fedalau yn rownd derfynol Cymru o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a gynhaliwyd yn Arena Abertawe.
Y digwyddiad hwn oedd penllanw holl ddigwyddiadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru sydd wedi’u cynnal ledled Cymru, sy’n profi sgiliau myfyrwyr mewn amrywiol sectorau, o’r celfyddydau coginiol i gyfrifeg ac adeiladu i hyfforddiant ffitrwydd personol.
Wedi’i drefnu gan Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, cyflwynodd y digwyddiad wobrau aur, arian ac efydd i fyfyrwyr ar draws Cymru, ac i’r rheiny na allai fod yn bresennol, trefnwyd nifer o bartïon gwylio i ddilyn y digwyddiad byw.
Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru sy’n arwain y prosiect a chystadlaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob myfyriwr a phrentis yng Nghymru yn cael eu cefnogi ar hyd eu taith gystadlu.
Mae’r cystadlaethau hyn yn arwain at fod yn rhan o WorldSkills y DU lle mae rhai myfyrwyr yn cael y cyfle i gystadlu i ddod yn rhan o garfanau a thimau’r DU, gan weithio yn y pen draw tuag at gystadlu’n rhyngwladol.
Yn ychwanegol at y medalau hyn, enillodd myfyrwyr hefyd nifer o anrhydeddau Canmoliaeth Uchel.
Gwaith Saer ac Asiedydd
Yn y categori Gwaith Saer, Twm Jones enillodd y fedal aur, tra bod Cerith Williams, prentis gyda Cartrefi AJ Homes, wedi cipio’r arian. Draw ym maes Gwaith Asiedydd, enillodd Guto Rogers fedal aur hefyd, gan brofi ei arbenigedd mewn gwaith crefftus.
Crefftau Adeiladu a Thrydanol
Enillodd Tomos Edwards arian yn y gystadleuaeth Gwaith Brics. Yn y cyfamser, mewn Gosod Trydanol, enillodd Jack Bowen efydd, gan arddangos ei sgiliau mewn maes hynod dechnegol.
Diwydiannau Creadigol a Dylunio
Dangoswyd Rhagoriaeth mewn Peintio ac Addurno gan Phoebe Jones, a enillodd fedal efydd. Ym Mheirianneg Fecanyddol CAD, aeth Hayden Anslow ag arian adref, tra ym maes cynyddol Ynni Adnewyddadwy, enillodd Daniel Bonnell ac Anselm Brand - rhan o Dîm CSG 1 - fedalau efydd.
Yng nghategori Awtomeiddio, dangosodd Finley Norris o Dîm 3 sgiliau blaengar, gan ennill aur yn y ddisgyblaeth uwch hon.
Rhagoriaeth Coginiol a Lletygarwch
Rhagorodd y tîm coginiol yn y categori Celfyddydau Coginiol, gydag Elis James yn cipio aur, Llion Evans yn ennill arian, a Charlie Penney yn ennill efydd.
Yng nghategori Gwasanaeth Bwyty, gwnaeth Ruby Johnston argraff ar y beirniaid gan ennill arian, tra ychwanegodd Ifan Morris at lwyddiant y coleg gyda medal efydd.
Hybwyr Sgiliau Cynhwysol
Yn brawf gwirioneddol i ymroddiad a dyfalbarhad, enillodd Libby Bowen aur mewn Sgiliau Cynhwysol: Paratoi Bwyd, tra enillodd Mia Elen Margrave-Jones efydd mewn Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaeth Bwyty.
Busnes a Thechnoleg
Yn y categori Cyfrifeg, dangosodd Brandon Ayres a Gareth Lloyd, y ddau o dîm FITS, eu harbenigedd ariannol trwy ennill medalau arian. Ym myd cyflym codio, dangosodd Finlay Jenson Stewart allu eithriadol, gan gipio aur.
Yn y cyfamser, yn y gystadleuaeth Ffotograffiaeth, cipiodd Kimberley Fulcher y foment - yn llythrennol - trwy ennill medal arian am ei dawn greadigol.
Yn ogystal, enillodd Twm Jones teitl prentis y rhanbarth am waith saer ac enillodd Mia Elen Margrave-Jones wobr ranbarthol am sgiliau cynhwysol: gwasanaeth bwyty.
Meddai Vanessa Cashmore, is-bennaeth yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Diolch i’n staff a’n myfyrwyr anhygoel am wneud noson wobrwyo Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddathliad o dalent, ymroddiad a chyflawniad.
“Mae eich gwaith caled a’ch brwdfrydedd yn parhau i lunio dyfodol mwy disglair i bawb. Daliwch ati i ymdrechu, daliwch ati i ysbrydoli.”