Campws amaethyddol yn croesawu ymweliad gweinidogol
Croesawodd tîm amaethyddol Coleg Sir Gâr Ddirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yng Nghymru, i’w campws yn y Gelli Aur.
Roedd yr ymweliad yn cynnwys gweld gorsaf dywydd Prosiect Tywydd Tywydd Tywi ar y campws sy’n llywio penderfyniadau’n ymwneud â rheoli maetholion yn y pridd, trwy ap a wnaed ar gael yn eang i ffermwyr.
Gyda chymorth technoleg synwyryddion, mae’r system yn mesur tymheredd y pridd, lleithder dail a lleithder y pridd ar ffermydd wedi’u lleoli’n strategol o fewn dalgylch Dyffryn Tywi, ac yn fwy diweddar Dyffrynnoedd Wysg a Chleddau.
Cafodd gwaith y tîm ar Brosiect Prosiectslyri, system gwahanu slyri a dŵr sy’n torri tir newydd, ei gydnabod ynghyd ag angen pellach ar gyfer datblygiad a chyllid sydd wedi sbarduno trafodaeth bellach.
Bu Huw Davies, rheolwr fferm y Gelli Aur, yn esbonio sut mae’r fferm yn gweithio, gyda llaeth yn fenter greiddiol iddi a buches o 500 o dda, hanner yn lloia yn y Gwanwyn a hanner yn yr Hydref.
Mae defnyddio’r system dywydd ar y campws yn ddefnyddiol o ran dewis y coleg i adael i wartheg bori cymaint â phosibl, sy’n helpu darparu llaeth o ansawdd ar gyfer cynhyrchu caws.
Mae yna ddefaid ar y campws hefyd lle cânt eu defnyddio ar gyfer astudio gwaith ymarferol ac mae treial bach newydd ar y cyd â chyswllt yn y diwydiant wedi cychwyn i archwilio gyrroedd bîff o deirw a anwyd o fuchod llaeth.
Gwnaeth Liz Bowes, pennaeth amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr esbonio ymrwymiad y coleg i ddarparu cyfleoedd hyfforddi amaethyddol ac ar dir cyn ac ôl brifysgol gyda rhai myfyrwyr yn teithio o gyn belled â Dale a Thyddewi.
Mae campws y Gelli Aur yn gartref hefyd i’r Ganolfan Adnoddau Amaethyddol sydd wedi bod yn safle i lawer o brosiectau penodol i’r diwydiant a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, megis y rhaglen Gwaredu BVD, sy’n anelu at waredu Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn gweithio ar y prosiect Gwaredu Scab, sy’n fenter i waredu claf defaid. Dyma’r prosiect profi a thrin cyntaf o’i fath ledled y wlad sy’n rhad ac am ddim i ffermwyr defaid ar draws Cymru, ac a arweinir gan Goleg Sir Gâr.
Trefnwyd yr ymweliad gan John Griffiths, pennaeth ymchwil a datblygu amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr. Meddai: “Roedden ni wrth ein boddau’n croesawu Huw Irranca-Davies i gampws y Gelli Aur.
“Mae cwrdd â gweinidog bob amser yn brofiad positif, fel bod ein gwaith a’n hymdrechion o fewn y diwydiant ac o fewn darparu addysg mewn amaethyddiaeth yn gallu cael ei rannu’n ehangach.”
Lluniau: https://www.flickr.com/photos/colegsirgar/albums/72177720320029705/