Band Coleg Sir Gâr, Katalogen, yn Rhyddhau EP Cyntaf Clay Chums a chael ei chwarae ar BBC Wales
Mae Katalogen, band a ffurfiwyd yng Ngholeg Sir Gâr wedi rhyddhau eu EP cyntaf, Clay Chums, dros yr haf a chafodd eu cân, I don’t understand, ei chwarae ar BBC Wales.
Mae’r band yn cynnwys pum myfyriwr o’r cwrs Perfformio Cerddoriaeth: Nikola Kazmierowicz (gitâr a lleisydd), Connor Gayford (gitâr), Christopher Sieuw (gitâr), Ronnie Evans (gitâr fas), ac Evan Davies (drymiau). Daeth y grŵp at ei gilydd mis Medi diwethaf ar ôl i’w darlithydd cerddoriaeth, Pasha, annog Niki a Connor i gydweithio a “gwneud cerddoriaeth gyda’i gilydd.”
Ers hynny, mae Niki a Connor wedi ysgrifennu pob un o’r traciau ar yr EP, a gwnaeth y band ehangu’n raddol trwy ychwanegu drymiwr, gitarydd a gitarydd bas.
Digwyddodd ffurfio’r grŵp yn naturiol —fe wnaeth Evan, y drymiwr, ddigwydd clywed y ddau yn chwarae cân ac yn ddigymell awgrymodd guriad drwm, a thrwy hynny ymuno â’r band. Ar y dechrau, penderfynon nhw yn erbyn cael gitarydd bas, ond pan ymunodd Ronnie, roedd ei arddull a’i egni’n gweddu’n berffaith, gan gyfannu dynamig y band.
Cafodd Chris, y gitarydd, ei ychwanegu nes ymlaen yn y broses. Gwrandewodd ar y gerddoriaeth a chyfrannodd ei syniadau ei hunan, gan ychwanegu at y traciau lle teimlai roedd angen gwneud hynny. “Mae’n broses gydweithredol” esboniodd y band, gan dynnu sylw at sut gwnaeth mewnbwn pob aelod siapio’r sain gyffredinol.
Roedd creu Clay Chums yn brosiect coleg ac yn brosiect seiliedig ar frwdfrydedd i Katalogen. “Roedden ni am wneud y gerddoriaeth” meddai’r band, gan esbonio sut y bydden nhw’n aml yn jamio gyda’i gilydd yn yr ystafell ymarfer. Roedd y broses ysgrifennu’n troi yn bennaf o gwmpas Niki a Connor, a oedd yn bownsio syniadau oddi ar ei gilydd, a dyna sut daeth yr EP yn fyw.
Unwaith cafodd y traciau creiddiol eu hysgrifennu, ychwanegodd Ronnie ei rannau bas, a chyfrannodd Chris ei syniadau ei hun lle roedd yntau’n teimlo bod y gerddoriaeth eu hangen.
Un enghraifft yw eu trac I Don’t Understand. Cafodd ei brif riff ei ysgrifennu gan Connor flwyddyn cyn i’r gân gael ei datblygu’n llawn, gan ddechrau yn ei ystafell cyn iddo hyd yn oed ddechrau yn y coleg. Mae cyfathrebu agored y band yn allweddol i’w proses greadigol, gan ganiatáu iddynt fod yn onest am beth sy’n gweithio a beth sy ddim, heb fynd i ddadlau.
Yr ysbrydoliaeth ar gyfer EP Katalogen oedd jîns anffasiynol gwasg uchel (mom jeans), gyda’r band yn nodi’n ddigrif, “Rydyn ni’n dwlu ar mom jeans; fedrwn ni ddim stopio sôn amdanynt.” Hefyd cafodd Connor a Chris eu hysbrydoli’n sylweddol gan gerddoriaeth King Gizzard & the Lizard Wizard.
“Rydyn ni’n eithaf anffasiynol o ddwys pan mae’n dod i’n cerddoriaeth,” mae’r band yn cyfaddef, gan nodi eu bod yn rhoi llawer o ystyriaeth i’w proses greadigol. Er nad ydynt yn cadw’n llym at theori gerddorol, maen nhw’n dilyn eu greddf, gan ddweud, “Os mae’n swnio’n dda, yna mae’n swnio’n dda.”
Mae gweddill y band yn mynychu’r brifysgol ym Mryste ar hyn o bryd, ac mae Niki a Connor yn bwriadu ymuno â nhw pan fyddant yn gorffen yn y coleg. Mae Niki yn gobeithio dilyn cwrs cynhyrchu cerddoriaeth gan ei bod wedi “dod i edmygu ochr dechnegol pethau.” Heb os, bydd yr awydd hwn i ehangu ei gwybodaeth yn cyfoethogi sain Katalogen wrth iddynt barhau i ddatblygu fel cerddorion.
Mae eu sain yn cyfuno elfennau emo Gorllewin Canol yr UD, math roc, a roc amgen, i greu arddull cerddorol unigryw a dynamig.
Mae EP Katalogen Clay Chums ar gael i wrando arno ar yr holl lwyfannau ffrydio gan gynnwys Spotify.