Ail-sefyll Mathemateg a chwrs mynediad yn helpu Nicola i ennill lle prifysgol i astudio therapi a hylendid deintyddol, er gwaethaf cael llawdriniaeth fawr
Roedd Nicola Barber am wneud cais i astudio gradd yn y brifysgol ond darganfu bod y mwyafrif o brifysgolion a oedd yn cynnig y cwrs oedd o ddiddordeb iddi, yn gofyn am TGAU mathemateg.
Gyda’i chymwysterau TGAU o’r ysgol, roedd ond angen iddi ennill ei chymhwyster mathemateg felly penderfynodd astudio cwrs nos ar-lein Coleg Ceredigion. Roedd hyn yn ei galluogi i ddod i ben ag ymrwymiadau teuluol ochr yn ochr â’i chwrs mynediad i addysg uwch (gwyddor iechyd) yn yr un coleg.
Mae Nicola hefyd wedi cael yr heriau ychwanegol o gael llawdriniaeth sylweddol ar ei hysgyfaint yn ystod y cwrs, a oedd yn golygu triniaeth ac adferiad creulon iawn.
Roedd hyn yn golygu, yn dilyn ei llawdriniaeth, collodd hi ei gwersi i gyd ac arholiad. Roedd rhaid iddi ddal i fyny pan oedd hi’n teimlo ei bod yn gallu, gan adolygu ar-lein, ymuno â gwersi ar-lein a chwblhau gwaith cwrs.
Gwnaeth y coleg rai addasiadau a wnaeth, yn ôl Nicola, ei helpu i gyflawni’r gwaith o gwblhau’r cwrs. Hefyd rhoddwyd ei hystafell arholiad ei hun iddi ar y llawr gwaelod ynghyd â goruchwyliwr, ar adeg pan oedd hi’n teimlo’n wan ac yn flinedig ar ôl ei llawdriniaeth, sef triniaeth i gywiro problem feddygol lle roedd ei hysgyfaint yn cadw dadchwyddo.
O ganlyniad, mae Nicola bellach ar ei ffordd i wella ac mae hi’n paratoi i astudio gradd mewn therapi a hylendid deintyddol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Meddai Nicola Barber: “Mae mathemateg yn bwnc rwyf wedi’i gael yn anodd erioed ond roedd y coleg yn wych. Maen nhw’n cynnig gymaint o gymorth ar ben y gwersi wythnosol felly os oes angen adolygu ychwanegol mae modd ei drefnu.
“Yn ogystal trefnodd fy nhiwtor ychydig o wersi adolygu ychwanegol yn ystod y gwyliau hanner tymor. Roedden nhw’n ddefnyddiol iawn oherwydd roedden ni’n gallu mynd dros rhai rhannau roedd arnom angen cymorth ychwanegol gyda nhw.
I fod yn onest fedra i ddim diolch digon i’r coleg oherwydd roedd fy sefyllfa’n anodd yng nghyfnodau olaf y cwrs, ond roedden nhw yno i mi ac oherwydd hynny, roeddwn i’n dal i allu ennill fy ngraddau.
“Rwyf mor ddiolchgar iddyn nhw. Wrth gwrs mae rhaid i chi wneud y gwaith y tu allan i’r gwersi wythnosol ac roeddwn i’n amau fy hun ar hyd y ffordd ond adolygais y gwaith a roddwyd i mi ac enillais i’r graddau roeddwn i eu hangen.”