Aelod o staff sy'n codi ymwybyddiaeth o epilepsi a SUDEP yn annog pawb i gefnogi'r Diwrnod Porffor

Mae aelod o staff Coleg Sir Gâr wedi bod yn ysbrydoli ei chydweithwyr a myfyrwyr drwy godi ymwybyddiaeth o achos a arweiniodd at farwolaeth drasig ei mab ei hun.
Mae Helen Yates, sy’n darparu cymorth addysgol i fyfyrwyr ar gampysau Pibwrlwyd a Rhydaman, yn paratoi, gyda chefnogaeth ei chydweithwyr a’i myfyrwyr, ar gyfer Diwrnod Porffor, ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o epilepsi.
Rhan lai adnabyddus o epilepsi, y mae Helen eisiau tynnu sylw ati, yw ‘marwolaeth sydyn annisgwyl mewn epilepsi’ a gefnogir gan SUDEP Action, yr unig elusen yn y DU sy’n gweithio ochr yn ochr â’r rheiny sydd wedi colli anwyliaid i farwolaeth sy’n gysylltiedig ag epilepsi.
A hithau wedi rhoi sgyrsiau ar y pwnc i dri grŵp o fyfyrwyr celf ym Mhibwrlwyd, ac yn mynd i gynnig yr un peth i fyfyrwyr rhaglenni gradd iechyd a chwnsela ar gampws Rhydaman, mae Helen Yates yn teimlo’n gryf dros beidio â chynhyrfu ynghylch epilepsi, ond hefyd dros godi ymwybyddiaeth o’r risgiau uwch. “Mae’n rhywbeth nad yw’n ymddangos fel pe bai’n cael ei drafod,” meddai. “Y tro cyntaf i mi glywed amdano oedd gan yr ymatebwyr cyntaf a fynychodd alwad 999 fy mab. Ceir nifer o farwolaethau’r wythnos o ganlyniad i epilepsi, a mae’n fwyaf cyffredin ymhlith pobl dan 40 oed, mae’r niferoedd yn codi, a chredir bod modd atal hanner y marwolaethau.”
Mae llawer o fyfyrwyr wedi bod yn cefnogi’r Diwrnod Porffor ac yn bwriadu cynnal diwrnod ymwybyddiaeth a chodi arian ar gampws Rhydaman ar ei ddiwrnod swyddogol, sef dydd Mercher, 26 Mawrth.
Dim ond 20 oed oedd fy mab, Hayden, pan fu farw o ganlyniad i SUDEP. Wnaethon ni erioed ddod o hyd i feddyginiaeth a allai helpu ei drawiadau ond hefyd, nid oedd erioed wedi cael gwybod ei fod mewn perygl neu fod SUDEP hyd yn oed yn beth; ein nod yw newid hynny.”




Croesawodd yr adran gelf ar gampws Pibwrlwyd ddysgwyr o raglenni Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) a Dechrau Newydd a’u hwyluso i fynd ati i fod yn greadigol a threulio amser yn gwneud eitemau i’w gwerthu ar gyfer y Diwrnod Porffor. Buont hefyd yn treulio amser ym mwyty hyfforddi Cegin Sir Gâr y coleg lle buont yn helpu addurno cacennau a wnaed â llaw gyda thema borffor, a gwneud moctels porffor.
Mae llawer o weithgarwch yn digwydd ar gyfer y Diwrnod Porffor, gyda chystadlaethau poster, taith gerdded borffor, coffi porffor, a bydd myfyrwyr ILS yn dosbarthu calonnau porffor sy’n cyfleu negeseuon pwysig.
Ychwanegodd Helen Yates: “Dim ond 20 oed oedd fy mab, Hayden, pan fu farw o ganlyniad i SUDEP, wnaethon ni erioed ddod o hyd i feddyginiaeth a allai helpu ei drawiadau ond hefyd, nid oedd erioed wedi cael gwybod ei fod mewn perygl neu fod SUDEP hyd yn oed yn beth; ein nod yw newid hynny.”
Mae hi wedi bod yn gweithio gyda nyrs epilepsi o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar daflen y gellir ei dosbarthu ar adeg y diagnosis.
Mae sgyrsiau Helen hefyd wedi helpu myfyrwyr nad oes ganddynt epilepsi i ddeall sut y gallai’r unigolyn sy’n cael trawiad deimlo, a sut i ddelio â’r sefyllfa. “Yn aml gall myfyrwyr ag epilepsi brofi colli cof,” meddai. “Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’u hanghenion, yn enwedig mewn lleoliad coleg lle gallai eu cynnydd dysgu gael ei effeithio heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain.”
Mae Rebecca Sellick, darlithydd celf a dylunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr yn gwbl gefnogol i Helen, meddai: “Mae stori bersonol Helen a’i dewrder yn hynod ysbrydoledig, ni alla i ddychmygu mynd trwy’r hyn y mae hi wedi mynd drwyddo.
“Mae Helen yn rhan o’n teulu coleg a dyna beth rydyn ni’n ei gofleidio yng Ngholeg Sir Gâr, ac mae’r myfyrwyr yn dwlu arni.”
Mae Diwrnod Porffor 2025 yn y DU yn cael ei gynnal ddydd Mercher 26 Mawrth.
