Skip page header and navigation

Croeso i’r Llyfrgell.

Ceir llyfrgell ar bob campws lle byddwch yn dod o hyd i ystod eang o adnoddau dibynadwy, o’r ansawdd gorau. Rydym yn cadw gwerslyfrau pwnc defnyddiol, llyfrau sy’n adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch sgiliau, cyfnodolion, papurau newydd, DVDau a deunyddiau clywedol mewn stoc (ar rai safleoedd). Hefyd mae yna e-lyfrau, cyfnodolion a phapurau newydd y gellir eu cyrchu ar-lein 24/7. 

Yn yr adrannau Lles/Wellbeing a Dyfodol/Future, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ystod o bynciau i gefnogi eich twf personol a’ch helpu i  gynllunio eich camau nesaf ar ôl y coleg.

Gall eich llyfrgell gael effaith gadarnhaol ar eich astudiaethau a’ch gradd derfynol yn ogystal â bod yn lle diogel i ddarganfod mwy amdanoch chi eich hunan. Mae gennym staff cyfeillgar a gwybodus sy’n awyddus i’ch helpu i wneud y gorau o’r hyn sydd ar gynnig, felly mae croeso i chi gysylltu â ni.

Angen rhywfaint o help?

Cynigir sesiynau cynefino, sesiynau un-i-un sesiynau a gweithdai yn y dosbarth i’r holl ddysgwyr, beth bynnag yw lefel eich cwrs neu eich dull mynychu.

Cewch gynnig i gael sesiwn gynefino â’r llyfrgell ar ddechrau eich cwrs. Bydd hyn yn cwmpasu’r hanfodion i gyd a byddwch yn gallu gofyn cwestiynau hefyd! Ond, os ydych yn methu hyn, rydych wedi dechrau’n hwyr — neu hyd yn oed os hoffech chi fynd drwy bethau eto - mae modd i chi gael sesiwn galw heibio neu sesiwn un i un wedi’i bwcio ymlaen llaw - dim ond i chi gysylltu â llyfrgell eich campws.

Oes angen Cerdyn Llyfrgell arnoch chi?

Efallai bod un gennych yn barod! Eich Cerdyn Adnabod Coleg Sir Gâr yw eich Cerdyn Llyfrgell hefyd. Does dim cofrestriad ar wahân, felly unwaith eich bod wedi derbyn eich cerdyn gallwch chi ddechrau benthyca. Cofiwch y bydd angen eich cerdyn arnoch bob tro y byddwch yn ymweld â’r Llyfrgell a pheidiwch â gadael i unrhyw un arall ei ddefnyddio.

myfyrwyr yn darllen yn y llyfrgell
saethiad uchel i fyny o ddyn yn gweithio wrth ddesg yn y llyfrgell
2 fyfyriwr yn gweithio ar gyfrifiaduron yn y llyfrgell

Rydym am i ddysgwyr gael lle gwych i astudio ac i wneud eu gwaith ymchwil a gyda hyn mewn golwg rydym wedi creu gwahanol barthau:

  • Ardaloedd astudio mewn grŵp
  • Desgiau astudio unigol
  • Ardaloedd astudio tawel
  • Ystafell astudio ddistaw (Y Graig yn unig)
  • Mannau astudio AU (Rhydaman yn unig)
  • Ystafelloedd y gall myfyrwyr AU eu harchebu (Pibwrlwyd yn unig)
  • Cyfleusterau llungopïo a sganio
Campws
Dyddiau
Oriau Agor
Aberystwyth Dydd Llun – Dydd Iau 09:00 – 17:00
  Dydd Gwener 09:00 – 16:30
Aberteifi Dydd Llun – Dydd Iau 09:00 – 17:00
  Dydd Gwener 09:00 – 16:30
Rhydaman Dydd Llun- Dydd Iau 08:45 – 17:00
  Dydd Gwener 08:45 – 16:30
Y Gelli Aur Dydd Llun – Dydd Gwener 09:00 – 16:30 (Ar gau bob dydd 12:30 – 13:15 )
Y Graig Dydd Llun - Dydd Iau 08:45 – 17:00
  Dydd Gwener 08:45 – 16:30
Pibwrlwyd Dydd Llun - Dydd Iau 08:45 – 17:00
  Dydd Gwener 08:45 – 16:30

Nodyn: Gall ein horiau agor newid ar fyr rybudd gan gynnwys amser cinio. Cysylltwch â’ch llyfrgell cyn cychwyn ar eich taith yn enwedig yn ystod y gwyliau.

Aberystwyth - 01970 639700

Aberteifi - 01239 612032

Rhydaman- 01554 748314 ammlibrary@colegsirgar.ac.uk

Y Gelli Aur- 01554 748590 gelliaurlibrary@colegsirgar.ac.uk

Y Graig - 01554 748082 graiglibrary@colegsirgar.ac.uk

Pibwrlwyd- 01554 748247 piblibrary@colegsirgar.ac.uk