Campws Aberystwyth
Campws Aberystwyth
Campws Aberystwyth Coleg Ceredigion yw prif leoliad y Gyfadran Creadigrwydd a Gofal ac mae wedi ei leoli mewn man gwyrdd ac agored sy’n edrych dros Fae Ceredigion. Mae gan yr holl ystafelloedd addysgu a TG sgriniau rhyngweithiol CTouch mawr yn ogystal ag ystod o gyfleusterau addysgu gydag adnoddau o safon diwydiant.
Mae yna Ardal Ymlacio fodern lle gall dysgwyr gymdeithasu, ymlacio neu ailfywiogi rhwng gwersi yn ogystal â Bwyty Blasus, sy’n gweini brecwast a chinio. Hefyd, mae gan y campws Ganolfan Adnoddau Dysgu a Llyfrgell sydd wedi’i staffio’n llawn yn ogystal ag ardaloedd arbenigol i gefnogi addysg a hyfforddiant mewn nifer o Feysydd Cwricwlwm. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Stiwdios Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth, Ymarfer a Pherfformiad a Swît Olygu a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer y Celfyddydau Creadigol
- Switiau Mac wedi eu cyfarparu’n llawn ar gyfer y Cyfryngau Creadigol
- Labordy trwsio Cyfrifiaduron a stiwdio Gyfrifiadura wedi eu cyfarparu’n llawn ar gyfer TG
- Labordy Gwyddoniaeth Modern ar gyfer Gofal
- Y bwyty hyfforddi @Aberista ar gyfer Lletygarwch ac Arlwyo sy’n agored i staff, myfyrwyr a’r gymuned leol
Mae’r campws yn hyrwyddo amgylchedd cefnogol a gofalgar gyda staff arbenigol wrth law i gynnig cyngor, cyfarwyddyd a chymorth. Mae profiad y dysgwr yn flaenllaw yn ein cymuned ddysgu. Dewch draw i ymweld â’n campws a chewch groeso cynnes ar unrhyw adeg.
Dod o hyd i gwrs ar Gampws Aberystwyth
Cyfeiriad Campws
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BP
01970 639700