Cofnodion Cyfarfod Bwrdd Coleg Sir Gâr a gynhaliwyd - 27ain Mehefin 2024
Introduction
Yn bresennol:
-
Mr John Edge (Cadeirydd)
-
Mrs Abigail Salini (Is-gadeirydd)
-
Ms Erica Cassin
-
Mr Alan Smith
-
Ms Jacqui Kedward
-
Mr Delwyn Jones
-
Mr Ben Francis [ar-lein] [gadawodd am 16:18 oherwydd problemau cysylltu]
-
Mr Mike Theodoulou
-
Dr Andrew Cornish (Pennaeth)
-
Mr Louis Dare (Staff CSG) [Ar-lein]
-
Mr John Williams (Staff CC)
-
Mr Eifion Griffiths (Enwebai PCYDDS)
Rheolwyr y Coleg:
-
Mrs Amanda Daniels (Is-bennaeth Cwricwlwm, Sgiliau ac Ansawdd)
-
Mr Ralph Priller (Prif Swyddog Gweithredu)
-
Mrs Vanessa Cashmore, (Is-bennaeth Cynllunio, Dysgwyr a Chyfathrebu)
-
Mrs Rebecca Jones (Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant)
Yn gwasanaethu:
-
Mr Damion Gee (Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i’r Bwrdd)
-
Mr Martin Davies (Cyfieithydd)
Gwesteion:
-
Ms Hannah Freckleton (Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2024/2025)
-
Ms Sarah Clark, (Ysgrifennydd y Brifysgol / Clerc y Cyngor, PCYDDS) [ar-lein] [gadawodd am 16:18 oherwydd problemau cysylltu]
-
Mr Peter Mannion (Prif Swyddog Gweithredu, PCYDDS)
Cadarnhaodd y Clerc fod cworwm yn y cyfarfod. Cychwynnodd y cyfarfod am 15:39.
Eitem agenda |
Prif bwyntiau trafod |
Cam gweithredu/penderfyniad |
|
1 |
Materion a Gedwir yn Ôl |
||
24/08/1.0 Argymhellion o gyfarfod y Pwyllgor Taliadau a gynhaliwyd ar 19eg Mehefin 2024 (Adroddiad Llafar) |
DERBYNIODD y Bwrdd adroddiad llafar yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Taliadau a gynhaliwyd ar ddydd Mercher, 19eg Mehefin 2024. Cyflwynwyd adroddiad ar argymhellion y Pwyllgor Taliadau a’u hegluro i aelodau Anweithredol y Bwrdd. CYMERADWYWYD yr argymhellion ar gyfer y ddau ddeilydd uwch swyddi - Pennaeth a Chlerc. |
Cam Gweithredu: Y Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant i roi ar waith y penderfyniadau a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Taliadau. |
|
2 |
Llywodraethu’r Cyfarfod |
||
24/09/2.1 Ymddiheuriadau am absenoldeb a datganiadau o fuddiannau |
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:
Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach heblaw am y rheiny oedd eisoes gan Glerc y Bwrdd. |
||
24/09/2.2 Cymeradwyo cofnodion anghyfyngedig y cyfarfod Diwethaf: 7fed Mawrth 2024
|
CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion ANGHYFYNGEDIG cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar ddydd Iau 7fed Mawrth 2024 fel cofnod cywir. |
||
24/09/2.3 Cymeradwyo cofnodion cyfyngedig y cyfarfod diwethaf 7fed Mai 2024 |
CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion CYFYNGEDIG cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar ddydd Mawrth 7fed Mai 2024 fel cofnod cywir. |
||
24/09/2.4 Materion sy’n codi a phwyntiau gweithredu nas cwmpaswyd mewn mannau eraill ar yr agenda.
|
Doedd dim unrhyw faterion yn codi. Nododd y Pwyllgor fod yr holl gamau gweithredu o fewn y raddfa amser berthnasol wedi’u cyflawni. |
||
23/09/2.5 Cofnodion cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion: 7fed Mawrth 2024 (Er gwybodaeth yn unig) |
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd gofnodion cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 7fed Mawrth 2024. |
||
3 |
Materion i Drafod a/neu Gymeradwyo |
||
24/10/3.1 Materion Ariannol y Coleg 23/24
|
DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd yr Ailragolwg Ariannol ar Gyfnod 8. NODWYD:
CYMERADWYODD y Bwrdd Ailragolwg 2 (ar Gyfnod 8). |
||
24/10/3.2 Materion Ariannol y Coleg 24/25
|
DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024/2025. NODWYD:
Gofynnwyd a ellid rhoi unrhyw fesurau ar waith yn ystod y flwyddyn i wneud arbedion cynyddol. NODWYD nad oes unrhyw doriadau wedi’u gwneud i gludiant dysgwyr, a allai gynnig arbedion sylweddol, ond byddai hyn yn effeithio ar ddysgwyr a recriwtio ac roedd y Coleg yn gyndyn o leihau hyn. Mae mesurau tymor byr, fel cau campysau yn gynharach, ar y gweill. Fodd bynnag, yn weithredol, mae’r Coleg yn ddarbodus iawn, a does dim unrhyw arbedion sylweddol ychwanegol. Byddai arbedion pellach yn debygol o gael effaith ar ddysgwyr a darpariaeth. Gofynnwyd a oedd yr undebau’n gwybod am sefyllfa ariannol tymor hir Colegau AB. NODWYD eu bod yn ymwybodol o’r sefyllfa. Trafodir cyflogau athrawon gan gorff annibynnol sydd wedi cyfarfod a chytuno ar gais am dâl; fodd bynnag, nid yw’r Coleg yn gwybod beth yw’r cais hwn ar hyn o bryd. Byddai unrhyw godiad a roddir dros y ffigwr o 3.5% yn y gyllideb yn ergyd i’r Coleg. Gwnaed sylw y gallai’r Coleg ystyried ailfeddwl ei fodel gweithredu cyfan. A oes modd ail-lunio sail costau gweithredu’r Coleg. NODWYD y bydd y Coleg yn gweld newid dramatig o ran ei ystad dros y pum mlynedd nesaf gyda phrosiect MIM, a fydd yn effeithio ar y strwythur gweithredu oherwydd bydd y Coleg yn gweithredu o lai o gampysau. Mae’r SLT yn edrych yn barhaus ar effeithlonrwydd gweithredol a newidiadau sydd wedi’u gwneud ac a fydd yn parhau i gael eu gwneud. Mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda PCYDDS a Choleg Sir Benfro i drafod strwythur a pherthnasoedd yn y dyfodol. Trafodwyd cynhyrchu incwm, diogelu’r Coleg at y dyfodol, a dull blaenoriaethu. Tynnwyd sylw at brosiect MIM fel prosiect a fydd yn helpu cynaladwyedd y Coleg wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, mae angen ystyried yn ofalus er mwyn cael y Coleg i’r pwynt hwn. CYMERADWYODD y Bwrdd y Gyllideb ar gyfer 2024/2025. [Gadawodd Mr Eifion Griffiths (Enwebai PCYDDS) am 16:14. Cymeradwyodd Eifion Griffiths ar lafar y polisïau sydd i ddod yn ddiweddarach yn yr agenda]. Nid oedd cworwm yng nghyfarfod y Bwrdd gan nad oedd Enwebai PCYDDS yn bresennol mwyach. [Gadawodd Mr Ben Francis a Ms Sarah Clark, a oedd yn mynychu’n rhithwir, y cyfarfod am 16:18 oherwydd problemau cysylltu] Cafwyd problemau cysylltu yn ystod y cyfarfod, gyda rhai mynychwyr yn methu cael mynediad i ddogfennau’r agenda. TRAFODWYD darparu un-ddogfen fel .pdf y gellir ei lawrlwytho er mwyn helpu i liniaru’r posibilrwydd na fyddai mynychwyr yn gallu cael mynediad i’r holl wybodaeth berthnasol. |
Cam Gweithredu: Clerc i ddarparu un-ddogfen fel .pdf y gellir ei lawrlwytho o wybodaeth y cyfarfod. |
|
24/10/3.3 Cynllun Strategol 2018 - 2024 |
DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd y gwerthusiad o’r Cynllun Strategol o 2018 - 2024. NODWYD:
Gwnaed sylw bod y wybodaeth yn wych i’w darllen ac i ddeall yr hyn sy’n bosibl. Cwestiwn sydd ynghlwm â hyn yw y dylai’r SLT ofyn beth ddysgodd y Coleg o’r cyfnod hwn y gellir ei ddefnyddio ar gyfer yr heriau sydd o fewn cyfnod y cynllun strategol newydd. NODWYD y byddai’r cwestiwn hwn yn cael ei ofyn, ac mae pwysigrwydd cael tîm cryf wedi bod yn allweddol dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig gyda’r heriau a wynebwyd. Mae’r tîm yng Ngholeg Sir Gâr yn un cryf ac yn un o’r rhesymau pam y bu cymaint o lwyddiannau rhagorol yn bosibl. Dywedodd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd wrth y Bwrdd eu bod wedi bod yn bresennol yng nghyfarfod strategol y staff yn ddiweddar. Roedd eu profiad wedi creu argraff arnynt, ac roeddent yn ystyried yr SLT i fod yn gyffrous a chryf. Gofynnwyd sut mae canlyniadau strategaeth 2018-2024 yn cymharu â’r weledigaeth a osodwyd ar ddechrau’r cyfnod hwn. Nodwyd bod y strategaeth yn unol â’r targed ar y cyfan. Mae’n bosib na ddatblygodd perthnasoedd strategol gyda PCYDDS a Choleg Sir Benfro cymaint ag y gobeithiwyd, gyda rhai agweddau nad oedd y Coleg yn gallu eu rheoli, ond mae’r rhain wedi cyflymu a byddant yn parhau i wneud hynny. Nid yw’r adolygiad Ôl-16 yng Ngheredigion wedi symud ymlaen ers sawl mis, ac er bod y Coleg wedi ceisio gwthio hyn, ni all y Coleg ei reoli. Y gobaith yw y bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn gymharol fuan er mwyn i’r Coleg allu cynllunio ar gyfer y dyfodol yn yr ardal hon. Trafodwyd hyrwyddo llwyddiant y coleg, gan sicrhau y gwneir y mwyaf o hyn. Ystyriwyd bod adborth gan y Bwrdd i’r staff a oedd wedi helpu myfyrwyr i gyflawni llwyddiant mawr yng ngwobrau’r Gorau o’r Goreuon yn bwysig iawn. Byddai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn ysgrifennu at y staff oedd yn ymwneud â’r Gorau o’r Goreuon. |
||
24/10/3.4 Cynllun Strategol 2024 - 2030 |
DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd y drafft cyntaf o’r Cynllun Strategol ar gyfer 2024 - 2030. NODWYD:
Rhannwyd mynychwyr y Bwrdd yn grwpiau i drafod y cynllun strategol drafft a rhoi adborth. [Gadawodd Mr Peter Mannion (Prif Swyddog Gweithredu, PCYDDS) am 17:18]. Yn dilyn trafodaeth grŵp, trafodwyd yr adborth o fewn y fforwm. NODWYD:
|
||
24/10/3.5 Adroddiad Effaith y Strategaeth Ryngwladol 2023/2024. |
DERBYNIODD y Bwrdd gyflwyniad a oedd yn tynnu sylw at effaith gwaith rhyngwladol y coleg. Strategaeth, gweledigaeth ac effaith. NODWYD:
|
||
24/10/3.6 Sefyllfa Bresennol y Coleg (MIM) |
DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad o ran y sefyllfa gyda’r MIM. NODWYD:
|
||
4 |
Materion i’w Cymeradwyo* |
||
24/11/4.1 Polisïau AD:
|
DERBYNIODD a CHYMERADWYODD y Bwrdd mewn egwyddor y polisïau canlynol:
Roedd Eifion Griffiths (Enwebai PCYDDS) wedi cymeradwyo’r polisïau ar lafar cyn gadael y cyfarfod. CYTUNODD y Bwrdd fod angen cael cymeradwyaeth ysgrifenedig gan Eifion Griffiths i’r polisïau er mwyn cadarnhau cymeradwyaeth lawn i’r polisïau. |
Cam Gweithredu: Clerc i gael cymeradwyaeth ysgrifenedig gan Eifion Griffiths i’r polisïau. |
|
5 |
Materion er Gwybodaeth** |
||
24/12/5.1 Adroddiad Pwyllgor o Gyfarfod y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a gynhaliwyd ar 25ain Ebrill 2024 |
DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a gynhaliwyd ar 25ain Ebrill 2024. |
||
24/12/5.2 Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a gynhaliwyd ar 9fed Mai 2024 |
DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a gynhaliwyd ar 9fed Mai 2024. |
||
24/12/5.3 Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 7fed Mai 2024 |
DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 7fed Mai 2024. |
||
24/12/5.4 Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 17eg Mehefin 2024 |
DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 17eg Mehefin 2024. |
||
24/12/5.5 Llythyr gan Simon Pirotte – CTER – (Medr) |
DERBYNIODD y Bwrdd wybodaeth gan Simon Pirotte, Prif Weithredwr CTER yn cyflwyno enw brand newydd CTER: Medr. |
||
24/12/5.6 Diwrnod Datblygu ar y Cyd - Medi 2024 |
DERBYNIODD y Bwrdd wybodaeth am Ddiwrnod Datblygu ar y Cyd posibl gyda PCYDDS a gofynnwyd iddynt ystyried a rhoi adborth ar unrhyw bynciau y teimlent y gellid eu cynnwys. |
||
24/12/5.7 Calendr y Bwrdd a Phwyllgorau 2024/25 |
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd Galendr drafft y Bwrdd a’r Pwyllgorau ar gyfer 2024/2025. |
||
6 |
Unrhyw Fater Arall |
||
24/13/6.1 |
Estynnodd y Cadeirydd groeso i Hannah Freckleton, Llywydd newydd Undeb y Myfyrwyr, a dywedodd wrth y Bwrdd fod Hannah wedi bod i Brifysgol Rhydychen yn ddiweddar i gasglu gwobr am ysgrifennu traethodau. Fe wnaeth y Bwrdd longyfarch Hannah ar ei chyflawniad. |
||
7 |
Datganiadau o Fuddiant |
||
24/14/7.1 I gadarnhau unrhyw wrthdaro buddiannau a all fod wedi codi yn ystod y cyfarfod. |
Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ystod y cyfarfod. |
||
8 |
Dyddiad y cyfarfod nesaf |
||
24/15/8.1 Dyddiad y cyfarfod nesaf |
Dydd Iau 17eg Hydref yn yr Ystafell Gynadledda ar Gampws y Graig yn dechrau am 16:00. |
Daeth y cyfarfod i ben am: 18:05.
Meeting terminated at: 18:05.