Skip page header and navigation

Campws Y Graig

Campws Y Graig

Introduction

Campws y Graig yw’r mwyaf o bum campws Coleg Sir Gâr. Lleolir y Campws ger pentref Pwll ar arfordir de-orllewin Cymru yn Llanelli. Ceir golygfeydd o benrhyn Gŵyr o’r Campws, ac mae’n lle gwych i astudio gyda’i ystod o gyfleusterau addysgu ac adnoddau da a’r Hwb, sef ardal i’r myfyrwyr a ddyluniwyd ar gynllun cyfoes ac sy’n cynnig cymorth personol a chyfleoedd dysgu.

O fewn yr Hwb ceir ystod o swyddogaethau cefnogi dysgwyr fel mentoriaid dysgwyr, swyddfa yrfaoedd, swît gynghori, podiau dysgu ac Undeb y Myfyrwyr. I fyny’r grisiau ceir ardal gymdeithasol i’r myfyrwyr ymlacio ynddi, sydd nesaf at Siop Goffi Starbucks a Llyfrgell y campws sy’n cynnwys ystod gynhwysfawr o e-adnoddau, llyfrau, cylchgronau, papurau, newyddiaduron a chyfarpar TG.

Ceir ymdeimlad gwych o gymuned a bywiogrwydd ar y campws, sy’n deillio o gyfuniad o fyfyrwyr brwdfrydig yn astudio gwahanol ddisgyblaethau. Cânt eu meithrin, maent yn derbyn gofal a chânt eu harwain gan aelodau o staff ymroddgar a phrofiadol sy’n eu helpu i gyrraedd eu potensial llawn, gan eu galluogi i symud ymlaen i’r cam nesaf yn eu haddysg, boed hynny mewn coleg, mewn prifysgol, mewn swydd neu mewn hunangyflogaeth.

Mae’r campws hefyd yn gartref i 6ed Sir Gâr, cyfleuster Safon Uwch y Coleg sy’n cynnwys y rhaglen Mwy Galluog a Thalentog (MAT) a’r Academi Chwaraeon sy’n darparu cyfleoedd chwaraeon ar gyfer athletwyr elit mewn ystod o chwaraeon. 

Cyfeiriad Campws

Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748179